Mae Sywel Nyw wedi rhyddhau ei bumed sengl o’r flwyddyn, a’r bumed trac o’i brosiect uchelgeisiol i ryddhau sengl pob mis yn ystod 2021, gan gydweithio gydag artist gwahanol bob tro.
‘Bonsai’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf sy’n ei weld yn partneriaethu gyda Glyn Rhys-James, sef gitarydd a phrif ganwr y grŵp o Aberystwyth, Mellt.
Mae’r sengl allan yn swyddogol ers dydd Gwener 28 Mai, ac yn ôl Glyn, mae thema’r gân yn un ddigon syml…
“Mae’r gân am goeden bonsai fi’n trial cadw’n fyw” meddai
Hyd yma mae’r senglau i gyd wedi’u rhyddhau’n ddigidol yn unig, ond mae nifer cyfyngedig o gasetiau yn cael eu rfyddhau gyda’r trac diweddaraf.
Yn ogystal â ‘Bonsai’, mae b-side egsgliwsif y casét yn cynnwys fersiwn piano o ‘Dyfroedd Melys’ gan Gwenno Morgan, sef sengl mis Mawrth y gyfres.
Bydd pob casét yn dod gyda bocs matches arbennig, i danio eich cannwyll, sigarét neu’ch dychymyg…