Mae label Recordiau Sain wedi gollwng dau o draciau albwm newydd Dylan Morris fel tamaid i aros pryd nes rhyddhau’r record.
Bydd yr albwm, ‘Da Ni yr Yr Un Lôn’, allan ddydd Gwener yma, 29 Hydref, ond cyn hynny mae dau drac wedi’u rhyddhau fel rhagflas.
‘Y Gwydriad Olaf’ ac ‘Ar Yr Un Lôn’ ydy’r ddwy gân dan sylw.
Un o’r artistiaid hynny a ddaeth i’r amlwg yn ystod cyfnod y clo mawr ydy Dylan Morris, a hynny’n bennaf diolch i’r dudalen Facebook boblogaidd Côr-ona. Roedd Dylan, sy’n dod o Bwllheli, wedi bod yn perfformio mewn nosweithiau meic agored a karaoke cyn hynny, ond yn ystod y cyfnod clo bu iddo gyhoeddi dros 100 o fideos ohono’n canu gan ddenu dros 50,000 o bobl i wylio.
Roedd y fideo’s ar Facebook mor boblogaidd yn ystod y cyfnod clo nes y cafodd wahoddiad i ryddhau EP ar Sain ym mis Hydref 2021.
‘Haul Ar Fryn’ oedd enw’r EP 5 trac, ond bellach mae wedi recordio albwm llawn sy’n cynnwys 11 o ganeuon.
Mae modd rhag archebu’r albwm ar wefan Dylan Morris cyn y dyddiad rhyddhau.