Gruff Rhys y rhyddhau sengl newydd

Mae Gruff Rhys wedi rhyddhau’r ail sengl o’i albwm nesaf, ‘Seeking New Gods’, fydd allan ddiwedd mis Mai.

‘Can’t Carry On’ ydy enw’r trac diweddaraf o’r casgliad i ymddangos, ac fe’i ryddhawyd wythnos diwethaf, ynghyd â fideo sydd wedi’i gyfarwyddo gan Mark James.

Yn ogystal â’i fand arferol, mae Lisa Jên a Mirain Hâf o’r grŵp 9Bach yn ymddangos ar ‘Can’t Carry On’.

Mae’r trac newydd yn dilyn y sengl ‘Loan Your Loneliness’ a ryddhawyd fis Mawrth. Bydd yr albwm allan yn swyddogol ar 21 Mai ar label Rough Trade.