Gruff Rhys yn 10 Uchaf siart albyms y DU

Mae albwm diweddaraf Gruff Rhys, ‘Seeking New Gods’, wedi llwyddo i gyrraedd 10 Uchaf siart albyms Prydain.

Rhyddhawyd yr albwm newydd, ei seithfed albwm stiwdio, ar ddydd Gwener, 21 Mai ar label Rough Trade Records ac mae wedi cael tipyn o sylw, ynghyd ag adolygiadau hael.

Wrth gyhoeddi’r siart albyms Prydeinig swyddogol ddydd Gwener, datgelwyd bod Seeking New Gods wedi llwyddo i gyrraedd rhif 10 yn y siart.

Dyma’r tro cyntaf i un o albyms unigol Gruff gyrraedd y deg uchaf – ei safle siart albyms uchaf cyn hyn oedd rhif 24 gydag ‘American Interior’ a ryddhawyd yn 2014.

Mae ganddo wrth gwrs brofiad blaenorol o gyrraedd y 10 Uchaf gyda’r Super Furry Animals – bu i 4 o’u halbyms gyrraedd y rhestr sef Radiator (rhif 8 ym 1997), Guerilla (rhif 10 ym 1999), Rings Around the World (rhif 3 yn 2001) a Phantom Power (rhif 4 yn 2003).

Mae’n werth nodi bod eu halbwm Cymraeg enwog, Mwng, hefyd yn agos iawn at gyrraedd y 10 Uchaf, gan gyrraedd rhif 11 yn 2000.

Gruff enillodd wobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau’r Selar yn 2020, gyda noson arbennig yn Aberystwyth i ddathlu ei yrfa

Mae’r artistiaid eraill sydd yn y 10 Uchaf ar hyn o bryd yn cynnwys enwau amlwg fel Rag’nbone Man, Pink, My Bloody Valentine a Weeknd, ac mae Gruff un safle’n uwch nag Elton John gyda’r albwm goreuon, ‘Diamonds’!

Gruff mewn cwmni da hefyd, er mai fo ydy rhif 1 i ni bob tro!