Gruff Rhys yn cynnig blas o’i albwm nesaf

Mae Gruff Rhys wedi datgelu blas o’i albwm nesaf ar ffurf y trac a fideo ‘Loan Your Loneliness’.

Bydd ei albwm unigol nesaf, ‘Seeking New Gods’, yn cael ei ryddhau ar 21 Mai ar label Rough Trade Records.

Dyma fydd seithfed albwm stiwdio unigol ffryntman Super Furry Animals, gan ddilyn ‘Yr Atal Genhedlaeth’ (2005), ‘Candylion’ (2007), ‘Hotel Shampoo’ (2011), ‘American Interior’ (2014), ‘Babelsberg’ (2018) a’r record hir Gymraeg ‘Pang!’ ddwy flynedd yn ôl yn 2019.

Yn dilyn rhyddhau ei albwm Cymraeg diweddaraf, cyhoeddwyd mai Gruff fyddai’n derbyn gwobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau’r Selar fis Chwefror diwethaf. Mae modd i aelodau Clwb Selar wylio’r noson Cyfraniad Arbennig hwnnw’n llawn.

Thema’n esblygu

Dechreuodd yr albwm fel cofiant ar gyfer y llosgfynydd Mount Paektu yn Nwyrain Asia, ond wrth iddo ddechrau ymchwilio’r hanes dechreuodd y caneuon droi’n fwy personol, gan fabwysiadu themâu mae Gruff wedi archwilio ers y gân ‘Slow Life’ gyda Super Furry Animals.

“Mae’r albwm am bobl a gwareiddiad, ac am y gofodau mae pobl yn  byw ynddynt dros gyfnodau o amser” meddai Gruff.

“Mae am sut mae pobl yn mynd a dod ond mae daeareg yn aros o gwmpas ac yn newid yn arafach.

“Mae dal yn gofiant i fynydd…wnewch chi ddim dysgu llawer iawn am y mynydd go iawn [Mount Paektu] wrth wrando ar y record ond byddwch chi’n teimlo rhywbeth, gobeithio.”

Recordiwyd yr albwm ar ymweliad byr â diffeithdir Mojave yn dilyn taith o’r Unol Daleithiau, a hefyd ym Mryste.

Mae wedi’i gymysgu gan y cynhyrchydd adnabyddus Mario Caldato, sy’n enwog am ei waith gyda Beastie Boys.

Cyhoeddwyd fideo ar gyfer y sengl gyntaf, ‘Loan Your Loneliness’, ddydd Llun diwethaf, 15 Mawrth ac mae wedi’i greu gan y cyfarwyddwr ffilm  Mark James.

Mae wedi’i ffilmio’n gyfan gwbl o flaen sgrin werdd, gydag aelodau’r band yn perfformio’n unigol “cyn eu dwyn ynghyd yn ddigidol i greu delwedd o un perfformiad stiwdio” i ddefnyddio geiriau Gruff.

“Er bod y fideo mewn du a gwyn gan fwyaf, fe wnaeth y solo gitâr honno wirioneddol droi’r cwbl yn lliw – rwy’n dal i geisio gweithio allan sut – roedd yn syfrdanol, a brawychus mewn ffordd – cael bod yn llygad-dyst i’r digwyddiad anarferol yma” ychwanegodd y cerddor.

Mae modd prynu’r sengl ar safle Bandcamp Gruff Rhys nawr, ynghyd â rhag archebu’r albwm. Mae hefyd modd prynu fersiwn feinyl nifer cyfyngedig o’r record sy’n cynnwys print wedi’i arwyddo, a flexi disc arbennig ar wefan Rough Trade.

Dyma’r fideo: