Gruff Rhys yn lysgennadWythnos Lleoliadau Annibynnol

Mae’r cerddor Gruff Rhys wedi’i gyhoeddi fel llysgennad yng Nghymru ar gyfer Wythnos Lleoliadau Annibynnol 2021.

Bydd Wythnos Lleoliadau Annibynnol (Independent Venue Week) yn digwydd rhwng 25 – 31 Ionawr eleni, ac am y tro cyntaf mae’r ymgyrch flynyddol i gefnogi lleoliadau cerddoriaeth annibynnol wedi dewis llysgennad ar gyfer pob gwlad unigol ym Mhrydain.

Fel rhan o’r wythnos bydd Gruff Rhys yn curadu ac yn perfformio yng ngŵyl rithiol Ara Deg yn Neuadd Ogwen, Bethesda gyda manylion llawn y digwyddiad i’w cyhoeddi dros yr wythnosau nesaf.

“Fel cerddor a’m bara menyn mewn teithio mae fy ngwaith yn ddibynnol ar gael lleoliadau annibynnol sy’n ffynnu – a dwi’n hapus i roi llais iddynt” meddai Gruff Rhys.