Mae Gruff Rhys wedi rhyddhau ei albwm newydd, ‘Seeking New Gods’ ers dydd Gwener diwethaf, 21 Mai ar label Rough Trade Records.
Dyma seithfed albwm unigol ffryntman y Super Furry Animals, gan ddilyn ei record hir Gymraeg, ‘Pang!’ a ryddhawyd yn 2019.
Roedd Gruff eisoes wedi cynnig blas o’r albwm newydd gyda’r senglau ‘Loan Your Loanliness’ a ‘Can’t Carry On’ a ryddhawyd ym mis Mawrth ac Ebrill.
Dywed y cerddor fod yr albwm wedi dechrau fel cofiant ar gyfer y llosgfynydd Mount Paektu yn Nwyrain Asia, ond wrth iddo ddechrau ymchwilio’r hanes dechreuodd y caneuon droi’n fwy personol, gan fabwysiadu themâu mae Gruff wedi archwilio ers y gân ‘Slow Life’ gyda Super Furry Animals.
Recordiwyd yr albwm ar ymweliad byr â diffeithdir Mojave yn dilyn taith o’r Unol Daleithiau, a hefyd ym Mryste ac mae wedi’i gymysgu gan y cynhyrchydd adnabyddus Mario Caldato, sy’n enwog am ei waith gyda Beastie Boys.
Wrth ryddhau’r albwm, mae Gruff hefyd wedi cyhoeddi fideo newydd ar gyfer y trac ‘Mausoleum Of My Former Self’ sydd wedi’i gyfarwyddo gan Mark James.