Bydd prosiect Merched yn Gwneud Miwsig yn cynnal gweithdy preswyl arbennig yng Ngwersyll yr Urdd, Glan-llyn ar benwythnos olaf mis Hydref eleni.
Prosiect Maes B i hybu mwy o ferched i ymwneud â’r diwydiant cerddoriaeth Gymraeg ydy ‘Merched yn Gwneud Miwsig’.
Yn y gorffennol mae’r prosiect wedi cynnal gweithdai diwrnod mewn lleoliadau yng Nghaerdydd ac Aberystwyth, yn ogystal â lansio ffansîn a phodlediad poblogaidd.
Mae’r gweithdy preswyl dros benwythnos 29-31 Hydref yn ddatblygiad cyffrous arall gan y prosiect. Bydd y penwythnos yn cael ei arwain gan diwtoriaid arbennig, a dwy gantores sydd wedi arloesi yn y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru sef Heledd Watkins o’r grŵp HMS Morris a Hana Lili.
£25 ydy pris y gweithdy penwythnos ac mae modd cofrestru nawr trwy lenwi ffurflen ar-lein.