‘Gweithred Gobaith’ – sengl newydd Tecwyn Ifan

Mae’r cerddor bytholwyrdd Tecwyn Ifan, un o hoelion wyth cerddoriaeth Gymraeg ers degawdau, yn rhyddhau ei sengl newydd sbon heddiw, 2 Awst.

Enw’r trac newydd ydy ‘Gweithred Gobaith’ ac mae’r geiriau wedi’u hysgrifennu gan y Prifardd Mererid Hopwood.

Yn ôl Recordiau Sain, sy’n rhyddhau’r sengl, mae’r gân yn un hynod berthnasol i’r cyfnod heriol hwn yr ydym i gyd yn byw ynddo ar hyn o bryd.

Rhyw dueddu i feddwl am obeithio fel mater o eistedd nôl a chroesi bysedd yw ein hanes ni, lawer ohonom, ond mae’r gân yma’n gweld gobaith fel grym sy’n ein hannog a’n hysbrydoli, gan roi i ni’r gallu i weld y pethau gwell a sut i’w cyrraedd.

Mae’r sengl yn rhagflas o albwm newydd Tecwyn Ifan, fydd yn cael ei ryddhau ar label Sain fis Medi.

Mae’r sengl a’r albwm wedi eu cynhyrchu gan Osian Huw Williams ac yn cynnwys nifer o gerddorion gwadd gan gynnwys Aled Wyn Hughes (bas), Pwyll ap Siôn (piano), Elan Rhys (llais cefndir) ac Osian Williams ei hun ar y gitâr a’r drymiau.

I gyd-fynd â rhyddhau’r sengl bydd roedd arbennig rhwng Dafydd Iwan a Tecwyn Ifan yn cael ei ddangos  fel rhan o arlwy Eisteddfod Amgen a bydd cyfle hefyd i weld fideo o ‘Gweithred Gobaith’, sydd wedi’i ffilmio gan Dafydd Nant yn Stiwdio Sain.

Dyma’r sgwrs rhwng Tecwyn a Dafydd: