Gwenno Morgan i ryddhau EP cyntaf

Enw sydd wedi bod yn amlwg iawn dros yr wythnosau diwethaf ydy Gwenno Morgan, a bydd y cerddor jaz dalentog yn rhyddhau ei EP cyntaf ddydd Gwener yma, 16 Ebrill.

Cyfnos ydy enw’r casgliad byr offerynnol gan Gwenno, ac fe’i rhyddheir ar label I KA CHING. Bydd y trac ‘T’ o’r EP yn cael ei rhyddhau fel sengl ar yr un dyddiad.

Mae enw, a cherddoriaeth Gwenno, wedi bod yn amlwg iawn dros yr wythnosau diwethaf wrth iddi gyd-weithio gydag artistiaid eraill.

Bu iddi rhyddhau sengl ar y cyd â Sywel Nyw, sef ‘Dyfroedd Melys’ ar 26 Mawrth, gyda Gwenno’n cyfansoddi’r gerddoriaeth ac yn chwarae’r piano ar y trac.

Yna, wythnos yn ddiweddaraf ar 2 Ebrill, roedd sengl arall allan ganddi – y tro yma ar y cyd gyda Mared.

Roedd Gwenno eto’n chwarae’r piano ar ‘Llif yr Awr’, gan hefyd gyd-gynhyrchu’r trac.

Roedd cyfle i weld y ddwy’n perfformio’r trac ar bennod ddiweddar ‘Curadur’ gan Lŵp, S4C oedd yn nwylo Mared.

Bu Gwenno hefyd yn cyfansoddi cerddoriaeth gefndir i gyfres newydd Hansh, ‘Genod sy’n Gweithredu’, a hyn oll wrth iddi wneud ei blwyddyn olaf yn astudio Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Leeds eleni.

Dal y sylw

Er ei bod wedi dod yn fwyfwy amlwg dros y mis diwethaf, roedd ei cherddoriaeth eisoes wedi dod i sylw nifer o bobl ddylanwadol cyn hynny.

Drwy gydol 2020 bu Gwenno’n cynhyrchu a rhyddhau traciau ar SoundCloud ac fe lwyddodd dau o draciau’r EP yn arbennig, sef ‘Gorwel’ a ‘Through the Space (Feat. Henry Weekes), i ddal sylw’r cyflwynwyr radio Sian Eleri a Georgia Ruth ar Radio Cymru, ac Adam Walton ar Radio Wales.

Er bod Gwenno’n fwy cyfarwydd fel pianydd clasurol, mae wedi magu cariad at gyfansoddi a chydweithio gydag artistiaid eraill. Dechreuodd gyfansoddi a hunan gynhyrchu ei cherddoriaeth i hun ar ddechrau 2020 ar ôl dychwelyd o flwyddyn dramor yn astudio yn Texas, UDA.

Mae ei dylanwadau cerddorol yn amrywiol, ond yn cynnwys enwau fel Brad Mehldau, Philip Glass, Bill Laurence, Jon Hopkins, Tom Misch a Four Tet.

Yn ôl Recordiau I KA CHING, mae Cyfnos yn gyfuniad o draciau sinematig sy’n ennyn hiraeth am lefydd a phobl arbennig. Amlygir hyn yn bennaf ar y traciau ‘Jasper’ a ‘T’, drwy ddefnyddio ‘memos llais’ gafodd eu recordio dros gyfnod o amser.

Mae nodyn gobeithiol i’w glywed ar y trac ‘Through the Space’, gyda ffrind Gwenno, Henry Weekes – sacsoffonydd sy’n byw yn Berlin, Yr Almaen – yn chwarae ar y trac.

Mae ffrindiau agos iddi hi yn Leeds hefyd yn chwarae ar ddau o’r traciau – sef Lara Wassenberg ar y viola ar y trac ‘T’, a George Topham ar y drymiau yn ‘Through the Space’.

Gwenno ei hun sydd wedi cynhyrchu’r EP, ac fe’i gymysgwyd a mastrwyd gan Ifan Emlyn Jones, Drwm, yn Stiwdio Sain.

Dyma un o’i thraciau cynnar a ddaliodd y sylw llynedd, ‘Gorwel’: