Pleser oedd datgelu heno mai enillydd gwobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau’r Selar eleni ydy Gwenno.
Cyhoeddwyd y newyddion gan Huw Stephens yn fyw ar ei raglen Radio Cymru, ac roedd sgwrs estynedig rhwng Huw a Gwenno’n ddiweddarach ar y rhaglen.
Bwriad y wobr Cyfraniad Arbennig, a noddir gan Brifysgol y Drindod Dewi-Sant, ydy nodi artist sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i gerddoriaeth Gymraeg dros gyfnod sylweddol o amser, ac sy’n parhau i wneud hynny.
Does dim amheuaeth fod Gwenno’n ffitio’r disgrifiad hwnnw – does dim llawer o artistiaid eraill, os unrhyw un, wedi mynd a cherddoriaeth Gymraeg gyfoes i gynulleidfa ehangach na hi dros y ddegawd ddiwethaf. Mae ei halbwm cysyniadol, Y Dydd Olaf, a ryddhawyd ar label Recordiau Peski yn 2014, yn glasur modern.
Am yr holl mae hi wedi gyflawni dros y blynyddoedd diwethaf, @gwennosaunders sy’n derbyn gwobr ‘Cyfraniad Arbennig’ Gwobrau @Y_Selar 2021. pic.twitter.com/J
— R
adio Cymru (@BBCRadioCymru) February 11, 2021
Roedd yr albwm yn gymaint o gampwaith nes i label enwog Heavenly ail-ryddhau’r record flwyddyn yn ddiweddarach. Arweiniodd hynny yn y man at gyhoeddi mai Gwenno oedd enillydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2015, gydag Y Dydd Olaf hefyd yn ennill teitl Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst y flwyddyn honno.
Gyrfa gynnar
Roedd Gwenno eisoes wedi gosod ei stamp ar y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg ymhell cyn hynny cofiwch. Rhyddhawyd dau EP Cymraeg ganddi ar ddechrau’r mileniwm sef Môr Hud yn 2002 a Vodya yn 2004.
Er na chafodd glod haeddiannol am y recordiau hyn ar y pryd, mae’n deg dweud eu bod yn torri tir newydd yn y Gymraeg gyda sŵn oedd yn awgrym o’r hyn oedd i ddod ganddi dros y ddegawd ddiwethaf.
Rhwng 2005 a 2010 bu’n aelod o’r grŵp The Pippettes a gafodd dipyn o lwyddiant rhyngwladol, a pan chwalodd y grŵp bu’n teithio fel chwaraewr allweddellau gyda Pnau ac Elton John.
Yn 2012, trodd Gwenno ei sylw yn ôl at yrfa unigol, gan ryddhau’r EP gwych, Ymbelydredd, ar label Peski. Ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno ymddangosodd Gwenno ar glawr cylchgrawn Y Selar, ac roedd cyfweliad dadlennol gyda hi yn y rhifyn hwnnw. Roedd Gwenno hefyd yn un o’r artistiaid a berfformiodd yn y digwyddiad Gwobrau’r Selar cyntaf yn Neuadd Hendre, Bangor ym mis Mawrth y 2013.
Heb amheuaeth, Y Dydd Olaf oedd y record a ddyrchafodd Gwenno i lefel uwch, ac ers hynny mae wedi teithio ledled y byd gyda’r sŵn unigryw ac arloesol, gan hybu ymwybyddiaeth o’r iaith Gymraeg a cherddoriaeth Gymraeg.
Yn 2018 torrodd dir newydd unwaith eto, y tro yma gyda record mewn iaith leiafrifol arall, sef y Gernyweg. Yn ôl erthygl gan y BBC yn y flwyddyn honno, roedd Le Kov yn ddigon dylanwadol i ysgogi 15% yn fwy o ddisgybion i eistedd arholiadau Cernyweg yn 2018. Cafodd ei derbyn i Orsedd y Beirdd Cernyw yn 2019.
Ym mis Mehefin 2020, penderfynodd y gantores i ryddhau casgliad casgliad o draciau bonws ac ailgymysgiadau o ganeuon Y Dydd Olaf ar ei safle Bandcamp.
Roedd enillydd y wobr Cyfraniad Arbennig yn cael ei ddewis gan banel Gwobrau’r Selar eleni, a heb os mae Gwenno’n enillydd teilwng iawn- llongyfarchiadau gwresog iddi gan bawb yn Y Selar.