Mae’r grŵp poblogaidd o’r Gogledd, Gwilym, wedi rhyddhau sengl newydd yn ddirybudd ddydd Gwener diwethaf, 8 Ionawr.
‘50au’ ydy’r trac newydd a ymddangosodd ddiwedd yr wythnos ac mae’n flas o ail albwm y grŵp sydd bellach ar y gweill.
A hwythau wedi ennill 8 o Wobrau’r Selar dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Gwilym wedi selio eu lle fel un o grwpiau mwyaf poblogaidd Cymru. Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn dawel iddynt fel cymaint o fandiau eraill sy’n dibynnu’n helaeth ar berfformiadau byw am eu bara menyn.
Er hynny, mae 2021 wedi dechrau’n llawer mwy pwrpasol gydag ymddangosiad ganddynt yn y cyntaf o gyfres ‘Gigs Tŷ Nain’ ar Ddydd Calan, ac yna set fel rhan o’r olaf yn y gyfres o gigs ‘Stafell Fyw’ a ddarlledwyd ar lwyfannau Lŵp, S4C nos Fercher diwethaf, 6 Ionawr.
Ac i gadarnhau eu bod nhw nôl o ddifrif, rhyddhawyd y sengl newydd yn annisgwyl ddydd Gwener ar label Recordiau Côsh. Yn ôl y grŵp, recordiwyd y trac ar ddiwedd haf 2019 a byddai wedi cael ei rhyddhau’n llawer cynharach oni bai am y clo mawr.
Cafodd ei recordio yn Stiwdio Ferlas gyda’r cynhyrchydd Rich Roberts, ac mae’r gwaith celf ar gyfer y sengl wedi’i ddylunio gan gitarydd y grŵp, Rhys Grail.
“Gafon ni lot o hwyl yn y stiwdio efo hon, yn ffidlan efo pedals gitâr doedden ni heb ddefnyddio o’r blaen” meddai Llew Glyn, gitarydd arall Gwilym wrth Y Selar.
“Rydan ni hefyd wedi defnyddio LinnDrum am y tro cyntaf, sef dryms trydanol, a dyna ydy’r sŵn clicio yn y penillion.”
“Mae hi’n ryw fath o flas o’r hyn sydd i ddod ar yr ail albwm. Bydd y synths yn bendant yn amlycach ar hwn [yr albwm], a mi fyddwn ni’n trio bod yn fwy arbrofol ar adegau, ond heb wyro’n ormodol oddi wrth indie pop yr albwm cyntaf.
“Ond pan dwi’n deud ‘arbrofol’, peidiwch disgwyl cân thrash metal efo Ifan yn sgrechian…’da ni’n cadw hynny at y trydydd albwm!”
‘50au’ ydy’r ail flas o’r albwm newydd mewn gwirionedd yn dilyn y sengl ‘\Neidia/’ a ryddhawyd ym mis Mai 2019 ac a gipiodd deitl y ‘Gân Orau’ yng Ngwobrau’r Selar llynedd.
Ar hyn o bryd, does dim dyddiad penodol ar gyfer rhyddhau’r albwm llawn gyda’r grŵp yn cadw golwg ar sefyllfa’r pandemig cyn ymrwymo.
“Dani’n wrthi’n recordio demos a ballu dros Zoom hefo Rich, felly unwaith fyddwn ni’n gallu, fyddwn ni nôl yn Ferlas yn recordio pob dim. Fyddan ni’n all systems go wedyn!