Gwobr hael am ysgrifennu sioe gerdd

Mae trefnwyr gwobr sydd fel arfer yn dyfarnu £5,000 i waith llenyddol yn galw eleni ar gystadleuwyr i ysgrifennu sioe gerdd yn benodol.

Mae Gwobr Llanbrynmair yn wobr a gynigir yn flynyddol am waith, mewn rhyddiaeth fel arfer, sy’n ymwneud â thalgylch Eisteddfod Talaith a Chadair Powys. Mae hon yn ardal sy’n cynnwys Sir Drefaldwyn, rhan dda o’r hen Sir Ddinbych, Edeyrnion, Penllyn a’r Gororau.

Mae’r wobr yn werth £5,000 ac am 2022-23 mae’r trefnwyr â diddordeb arbennig mewn derbyn sgript a sgôr Sioe Gerdd, a hynny’n ddelfrydol mewn cydweithrediad â chwmni fyddai’n awyddus i lwyfannu’r gwaith.

Y prif amod yw y byddai’n rhaid i’r sgript ymwneud yn uniongyrchol â Phowys, gan roi sylw i chwedloniaeth, hanes, digwyddiad neu gymeriad o’r rhanbarth.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ydy 21 Ionawr 2022, a gellir cael rhagor o wybodaeth gan Dafydd Morgan Lewis –  dafyddmorgan53@gmail.com