Nos Sul cynhaliwyd gwobrau blynyddol blog cerddoriaeth Sôn am Sîn ar Facebook Live.
Daeth y ddau sy’n gyfrifol am y blog, a phodlediad Y Sôn hefyd, Chris Roberts a Gethin Griffiths, ynghyd dros y we i drafod nifer o gategorïau’r gwobrau.
Roedd y categorïau’n cynnwys ‘EP gorau’, a ddyfarnwyd i’r record fer ‘Mas o Ma’ gan Eädyth ac Izzy Rabey; ‘artist y dyfodol’ a ddyfarnwyd i’r grŵp newydd o Bontypridd, Y Dail; ‘artist y flwyddyn’, lle daeth Endaf i frig y rhestr; a’r ‘lyric orau’ sef llinell o’r gân ‘Mae Dy Nain yn Licio Hip Hop’ gan Band Pres Llareggub a Gwyllt.
Sgroliwch lawr i weld rhestr lawn o’r enillwyr.
Gwyliwch y drafodaeth wrth ddyfarnu’r gwobrau’n llawn isod:
Enillwyr Gwobrau Sôn am Sîn
Albwm Gorau: Miroes -Ani Glass
Cyfyr neu ailgymysgiad y flwyddyn: Nôl i’r Fro (Endaf Remix) – Endaf Emlyn
EP Orau: Mas o Ma – Eädyth ac Izzy Rabey
Lyric Orau: “Mai’n neud y rowli, mai’n neud y powli – serfio chdi ar blât ‘fo naan bread a chicken curry” – o’r gân ‘Ma Dy Nain yn Licio Hip Hop’ gan Gwyllt a Band Pres Llareggub
Band y Dyfodol: Y Dail
Band neu Artist y Flwyddyn: Endaf
Digwyddiad y Flwyddyn: Taith Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn – Cowbois Rhos Botwnnog
Arwr y Flwyddyn y Byd Cerddoriaeth yng Nghymru – Hyw Stephens
Cân Orau: Dennis Bergkamp Till I Die – Papur Wal a Pasta Hull