Mae trefnwyr Gŵyl Ara Deg ym Methesda wedi cadarnhau bydd yr ŵyl yn digwydd eleni, ynghyd â chyhoeddi manylion yr arlwy dros dair noson y digwyddiad.
Lansiwyd yr ŵyl yn 2019 fel prosiect ar y cyd rhwng lleoliad Neuadd Ogwen ym Methesda, Focus Wales, a’r cerddor a ddaw’n wreiddiol o’r ardal, Gruff Rhys.
Fe’i cynhaliwyd yn wreiddiol ym mis Medi 2019 gyda cherddorion Cymreig a rhyngwladol yn perfformio mewn cyfres o gyngherddau yn lleoliad Neuadd Ogwen.
Eleni mae’r ŵyl yn dychwelyd, a hynny dros benwythnos 26 – 28 Awst.
Bydd Gruff Rhys ei hun yn perfformio, ynghyd â’r cerddorion Cymreig eraill Gwenno, Cerys Hafana, Pys Melyn ac Islet.
Yn ymuno â hwy dros y penwythnos fydd yr Albanes Brìghde Chaimbeul, y gantores o Ddulun Aoife Nessa Frances, a Gwenifer Raymond o Brighton.
Bydd gigs yr ŵyl yn cael eu cynnal dros dair noson, ac mae modd prynu tocynnau penwythnos am £35 nawr ar wefan Neuadd Ogwen.
Leinyp llawn Gŵyl Ara Deg 2021:
26 Awst, 19:00
GRUFF RHYS
AOIFE NESSA FRANCES
27 Awst, 19:00
BRÌGHDE CHAIMBEUL
GWENIFER RAYMOND
CERYS HAFANA
28 Awst, 19:00
GWENNO
ISLET
PYS MELYN