Gŵyl Neithiwr i ddychwelyd

Bydd ‘Gŵyl Neithiwr’ yn dychwelyd i ganolfan Pontio ym Mangor fis Ionawr, ddwy flynedd ar ôl ei chynnal am y tro cyntaf yn yr un lleoliad.

Sefydlwyd yr ŵyl gan drefnwyr gigs ‘Noson Neithiwr’ yn Ionawr 2020 yn dilyn llwyddiant cyfres o gigs llai a drefnwyd ym Mangor Ucha’ cyn hynny.

Roedd yr ŵyl, oedd yn cynnwys perfformiadau gan lu o artistiaid gan gynnwys 3 Hwr Doeth, Pys Melyn, Adwaith, Mellt a Papur Wal i enwi dim ond rhai, yn llwyddiant mawr bryd hynny.

Yn anffodus, fel cymaint o ddigwyddiadau eraill, doedd dim modd cynnal yr ŵyl gerddoriaeth llynedd oherwydd cyfyngiadau Covid 19, ond mae’r trefnwyr wedi cyhoeddi y bydd yn dychwelyd mis Ionawr yma.

Dyddiad y digwyddiad y tro hwn fydd 22 Ionawr, ac enwau’r artistiaid sydd wedi’u datgelu ar gyfer y gig ydy Adwaith, Kim Hon, 3 Hwr Doeth, Bandicoot, Mellt, Mali Hâf, SYBS a Crinc. Bydd Roughion a Tindall yn DJio yn yr ŵyl hefyd.

Mae’r tocynnau’n mynd ar werth trwy Pontio heddiw am £15 ymlaen llaw, gyda 10% o ostyngiad i fyfyrwyr.