Gŵyl rithiol Ogwen360 nos Fercher

Mae cerddor ifanc gweithgar, Dafydd Hedd, wedi mynd ati i drefnu gŵyl rithiol fydd yn cael ei chynnal nos Fercher yma, 10 Chwefror.

Mae’n trefnu’r ŵyl fel rhan o wasanaeth gwefan fro Ogwen360 gyda’r nod o arddangos talentau cerddorol ardal Dyffryn Ogwen yn benodol.

Roedd Dafydd yn gofyn i bobl oedd â diddordeb i gysylltu erbyn 8 Chwefror, ac i anfon fideo o set neu gân ganddynt i’w gynnwys fel rhan o’r arlwy.

Bydd yr ŵyl yn ffrydio ar dudalen Facebook Ogwen360 ac ymysg  y perfformwyr sydd wedi’u cadarnhau mae Dafydd ei hun, y cerddorion cyfoes ifanc Cai a Teleri Hughes, Skylrk, Yazzy Megan Wyn a Gwenno Fôn.

Bydd un o gerddorion amlycaf yr ardal, Neil Maffia, hefyd yn perfformio ynghyd â Chôr y Penrhyn.