Mae UMCB (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor) wedi cyhoeddi manylion gŵyl gerddoriaeth arbennig sy’n digwydd ym Mangor penwythnos yma.
Mae ‘Gŵyl UMCB’ yn cael ei lwyfannu’n arbennig i gyd-fynd ag wythnos a diwrnod ‘Shwmae Su’mae’ sydd wedi dod yn ddathliad blynyddol o’r iaith Gymraeg yn yr Hydref. Dydd Gwener 15 Hydref ydy dyddiad diwrnod ‘Shwmae Su’mae’ eleni.
Bydd cerddoriaeth fyw mewn lleoliadau amrywiol ym Mangor dros y penwythnos, gyda phwyslais ar gefnogi bandiau ac artistiaid ifanc, er bod digon o enwau mwyaf y sin yn perfformio hefyd.
Bydd y perfformiadau cerddorol yn dechrau nos Wener, gyda cherddoriaeth fyw mewn tri lleoliad. Bandiau ifanc lleol fydd yn camu i’r llwyfannau yn nhafarndai’r Glôb a Paddys ym Mangor Uchaf gan gynnwys enwau sydd wedi dod i’r amlwg yn ystod y cyfnod clo, sef Tesni Hughes, Dafydd Hedd a Cai. Cerddoriaeth yn dechrau am 18:30 yn y llefydd hyn.
Bydd y noson yn cloi yn yr Academi lle bydd Elis Derby a Dienw yn perfformio.
Canolfan Pontio fydd y brif gyrchfan ar y nos Sadwrn gyda llwyth o artistiaid amlwg yn chwarae. Mae rhain yn cynnwys Yr Eira, Y Cledrau, Mali Hâf ac Alffa i enwi dim ond rhai.
Mae tocynnau ar werth o Pontio.
Lein-yp llawn Gŵyl UMCB:
Gwener
Tafarn y Glôb (18:30)
Tesni Hughes
Io Rees
Paddys
Dafydd Hedd
Cai
Orinj
Academi
Elis Derby
Dienw
Sadwrn
Pontio
Yr Eira
Alffa
Y Cledrau
3 Hŵr Doeth
Mali Hâf
Kim Hon