Mae trefnwyr gŵyl gerddoriaeth fwyaf Cymru, sef Gŵyl y Dyn Gwyrdd, wedi cyhoeddi bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal eleni.
Fel cymaint o ddigwyddiadau eraill, nid oedd modd cynnal yr ŵyl llynedd o ganlyniad i’r pandemig, ond fe fydd yn dychwelyd eleni ar benwythnos 19-22 Awst gyda Gruff Rhys, Gwenno, Melin Melyn, Catrin Finch a Charlotte Church ymysg yr artistiaid Cymreig sy’n perfformio.
Dyma fydd y pedwerydd tro ar bymtheg i’r ŵyl gael ei chynnal yn y Bannau Brycheiniog, ac mae wedi mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd.
Mae tocynnau’r ŵyl eisoes wedi gwerthu allan, gan gynnwys y tocynnau ar gyfer y ‘Pas Ymsefydlu’ (Settler’s Pass) sy’n caniatáu i bobl gyrraedd y safle ar 16 Awst ar gyfer gweithdai, cerddoriaeth a llwyth o weithgareddau eraill. Mae’r ŵyl hefyd wedi cyhoeddi manylion cyntaf yr artistiaid sy’n perfformio, gan gynnwys yr enwau mawrion Little Dragon, Caribou, Mogwai a Fontaines D.C.
Mae’r artistiaid Cymreig sy’n perfformio eleni’n cynnwys enwau sefydledig fel Charlotte Church, Gwenno a Catrin Finch yn ogystal â rhai mwy diweddar fel Melin Melyn, a’r grŵp dwy-ieithog (Cymraeg a Saesneg) o Sheffield, Sister Wives.
Yn dilyn rhyddhau ei albwm diweddaraf, ‘Seeking New Gods’, a gyrhaeddodd ddeg uchaf siart albyms Prydain, bydd cryn edrych ymlaen at berfformiad Gruff Rhys yn yr ŵyl, a hynny ar ‘The Mountain’ Stage’.
Fel breuddwyd
“Ar adegau roedd yn teimlo fel breuddwyd y bydden ni fyth yn ôl ar y caeau gyda’n gilydd” meddai Prif Weithredwr Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Fiona Stewart, wrth gyhoeddi’r newyddion.
“Dwi’n methu mynegi cymaint mae’n golygu i mi, a’r miloedd o bobl rydyn ni’n dibynnu arnynt i wneud i’r Dyn Gwyrdd ddigwydd, ein bod ni’n gallu bwrw ymlaen. Allwn ni ddim aros i weld pobl yn mwynhau’r ŵyl unwaith eto.”
Mae’r trefnwyr wedi pwysleisio pwysigrwydd diogelwch y gynulleidfa, a bydd rhaid i unrhyw un dros 16 oed sy’n dod i’r ŵyl ddangos eu bod wedi cael prawf Lateral Flow GIC (NHS) negatif o fewn 48 awr cyn dod i’r digwyddiad, neu brofi eu bod wedi derbyn dau frechlyn o leiaf 14 diwrnod cyn eu hymweliad.
Bydd unrhyw un sydd â thocyn, ond sy’n methu dod i’r ŵyl eleni, yn cael cyfle i gyfnewid eu tocyn am un ar gyfer blwyddyn nesaf, neu dderbyn ad-daliad cyn 17:00 ar ddydd Gwener 23 Gorffennaf. Bydd unrhyw docynnau sy’n cael ei dychwelyd yn cael eu hail-werthu ar ddydd Mawrth 27 Gorffennaf am 10:00.
Rhestr lawn artistiaid Gŵyl y Dyn Gwyrdd 2021 (poster isod)
Mogwai | Caribou | Fontaines DC | Little Dragon | Thundercat |
Teenage Fanclub | Django Django | This Is The Kit | Jose Gonzalez | Gruff Rhys |
The Staves | Nadine Shah | Black Midi | Shame | Lump (Laura Marling & Mike Lindsay) |
The Maytals Band | Kokoroko | BC Camplight | Nubya Garcia | Self Esteem |
Kelly Lee Owens | Greentea Peng | Georgia | Snapped Ankles | Goat Girl |
Billie Marten | Erland Cooper | Marisa Anderson & William Tyler | Richard Dawson |
Catrin Finch & Seckou Keita | Gwenno | Vanishing Twin | Porridge Radio | V**gra Boys |
Working Men’s Club | Charlotte Church’s late night pop dungeon | Boy Azooga | Ross From Friends (live) | The Orielles |
Matt Maltese | Emma-Jean Thackray | Pictish Trail | The Surfing Magazines |
Peggy Sue | Yazmin Lacey | Overmono | Puma Blue | Los Bitchos | Big Joanie | Jockstrap | Crack Cloud | Giant Swan | DJ Rap |
Stephen Fretwell | Hen Ogledd | Alabaster Duplume | Liz Lawrence |
Wu-Lu | Katy J Pearson | Steam Down | PVA | Sinead O’Brien | Phoebe Green |
NewDad | King Hannah | Aoife Nessa Frances | H.Hawkline | Loraine James |
Hannah Holland | Sorathy Korwal | Deep Throat Choir | Fenne Lily | Ed Dowie |
Sarathy Korwar | Buzzard Buzzard Buzzard |
Peaness | Home Counties | Yard Act | The Lounge Society |
Matilda Mann | Gwenifer Raymond | Studio Electrophonique | Tony Njoku | LYR |
John | The Golden Dregs | Deliluh | The Cool Greenhouse | Speedboat |
Rising (A-Z) – Blood Wizard | Bugs | Caroline | Do Nothing | Drug Store Romeos | Duski |
Egyptian Blue | Faux Real | The Goa Express | Gonhill | Hanya | Laundromat | Lazarus Kane |
Lazy Day | Martha Skye Murphy | Melin Melyn | Nuha Ruby Ra | Panic Shack | Pet Deaths |
Prima Queen | Roscoe Roscoe | Sister Wives | Tina |
DJs – Huw Stephens | Adam Walton | Deptford Northern Soul Club | Heavenly Jukebox |
Dutty Disco | Birthday Club | Big Jeff | Art School Girlfriend DJ | Hot Singles Club | The Robots (Kraftwerk Tribute)