Bydd y grŵp ardderchog o Gaerdydd, My Name Ian, yn rhyddhau eu halbwm newydd ar 4 Mehefin, ond fel tamaid i aros pryd cyn hynny, maen nhw rhyddhau sengl gyda HMS Morris.
Mae’r grŵp wedi cyd-weithio gyda nifer o artistiaid eraill ar eu halbwm diweddaraf, ‘Fantastic Company’ gan gynnwys The Burning Hell, Quiet Marauder a HMS Morris.
‘Where is The Time?’ ydy enw’r trac gyda HMS Morris, ac fe fydd yn cael ei rhyddhau ddydd Gwener yma, 16 Ebrill ar label Bubblewrap Collective.