Kelly Lee Owens yn ennill y Wobr Gerddoriaeth Gymreig

Y gantores Kelly Lee Owens, gyda’i halbwm ‘Inner Song’ sydd wedi ennill y Wobr Gerddoriaeth Gymreig eleni. 

Cyhoeddwyd y newyddion mewn seremoni yn The Gate, Caerdydd, nos Fawrth diwethaf, 23 Tachwedd. 

Panel o feirniaid sy’n dewis enillydd y wobr o restr fer o albyms sydd wedi eu dewis gan reithgor o bobl weithgar yn y byd cerddoriaeth Cymreig.

Roedd 12 o albyms wedi cyrraedd y rhestr fer eleni, ac yn eu mysg y recordiau Cymraeg ‘Mas’ gan Carwyn Ellis a Rio 18, ‘Cwm Gwagle’ gan Datblygu’ a ‘Bywyd Llonydd’ gan Pys Melyn.

Yr artistiaid eraill oedd ar y rhestr fer oedd Afro Cluster, The Anchoress, El Goodo, Gruff Rhys, Gwenifer Raymond, Mace The Great, Novo Amor, Private World ac wrth gwrs yr enillydd Kelly Lee Owens. 

Rhyddhawyd ‘Inner Song’ yn Awst 2020 ar label Smalltowm Supersound. Dyma ail albwm stiwdio’r artist electronig, Owens. 

Yn ogystal â’r clod a bri sy’n dod yn sgil ennill y wobr uchel ei pharch, bydd Owens hefyd yn derbyn gwobr ariannol gwerth £10,000. 

Roedd trefwyr  y wobr eisoes wedi cyhoeddi mai’r grŵp chwedlonol o Aberteifi, Datblygu, oedd enillydd eu Gwobr Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig eleni. Roedd un o aelodau craidd y grŵp, Pat Morgan, yn y seremoni yng Nghaerdydd i dderbyn y wobr ar ran Datblygu wythnos diwethaf. Yn anffodus bu farw’r aelod arall, David R. Edwards yn 56 oed ym mos Mehefin eleni a dywed y trefnwyr bod y wobr yn cael ei chyflwyno er cof am Dave.