Mae ‘Bach o Flodyn’, sengl newydd Kim Hon, allan ers dydd Gwener diwethaf, 5 Chwefror.
Mae’r trac diweddaraf i ymddangos gan y grŵp lliwgar allan ar label Recordiau Libertino, ac mae ysbrydoliaeth reit benodol tu ôl i’r gân.
“Eginodd y riff a ffurfiodd y gân yma o ganlyniad i wylio rhaglen ddogfen am Robert Johnson ac yna ceisio dynwared ei dechnegau o chwarae gitâr” eglura’r grŵp.
Cerddor blŵs enwog o’r UDA oedd yn weithgar yn ystod y 1930au oedd Robert Johnson.
Er na chafodd lawer o lwyddiant masnachol, mae’n cael ei gydnabod fod ei steil chwarae meistrolgar wedi dylanwadu’n fawr ar genedlaethau o gerddorion.
Er gwaetha’r dylanwad ar y gân, mae Kim Hon yn cydnabod nad ydynt wedi gallu efelychu ei ddull chwarae.
“Wrth gwrs methon chwarae unrhyw beth tebyg i’r hyn mae Johnson yn ei chwarae, ond ganwyd y gân yma fel canlyniad beth bynnag.”
Dywed Recordiau Libertino fod caneuon Kim Hon yn annisgwyl ac yn eich tywys ar daith tuag at orwelion newydd.
Yn ôl y label, “mae ‘Bach o Flodyn’ fel haul yn machlud ar gae gŵyl gerddoriaeth, yn gorchuddio’r gynulleidfa yn ei belydrau cynnes”.