Lansio cyfres Ar Dâp @ Lŵp

Mae S4C wedi lansio cyfres o raglenni cerddoriaeth ‘Ar Dâp’ fel rhan o ddarpariaeth platfform Lŵp.

Mae’r gyfres newydd o chwech sesiwn estynedig yn dilyn llwyddiant cyfres diweddar Stafell Fyw. Fel rhan o’r gyfres honno darlledodd gigs byw ar-lein gan artistiaid amrywiol oedd yn cynnwys Calan, Adwaith, Gwilym a Candelas yn perfformio mewn lleoliadau ar draws Cymru ar blatfformau Lŵp.

Rhyddhawyd y sesiwn gyntaf o’r gyfres Ar Dâp ar nos Fercher 26 Mai, gyda’r band gwerin amgen 9Bach yn dod at ei gilydd i recordio pedair cân arbennig o Neuadd Ogwen, Bethesda.

Mae’r sesiwn 9Bach ar gael i’w wylio ar sianel YouTube Lŵp, yn ogystal ag ar S4C Clic. Bydd sesiwn arall yn cael ei darlledu yn ystod mis Mehefin gan y band Tri Hŵr Doeth ac bydd Yr Ods yn perfformio ym mis Gorffennaf.

Yna bydd 3 sesiwn arall yn cael eu cyhoeddi’n nes ymlaen yn y flwyddyn gyda 3 band arall.

“Rydyn ni’n falch iawn o allu comisiynu’r gyfres hon o 6 o sesiynau estynedig i roi llwyfan i artistiaid cerddorol gorau Cymru” meddai Rhodri ap Dyfrig, Comisiynydd Cynnwys Ar-lein S4C.

“Ar ôl arbrawf y Stafell Fyw, mae’n hynod o bwysig ein bod ni’n datblygu cynnwys pellach ar Lŵp sy’n cefnogi’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru a rhoi llwyfan i berfformiadau byw, a hynny mewn cyfnod sydd wedi bod yn anodd iawn.”

Mae 9Bach wedi bod yn perfformio setiau bychan rheolaidd ar eu tudalen Facebook dros y flwyddyn ddiwethaf gyda Lisa Jên, prif ganwr y grŵp, a’i gŵr Martin Hoyland sy’n aelod craidd arall 9Bach yn perfformio. Er hynny, roedd Lisa’n falch iawn o’r cyfle i gasglu’r band llawn ynghyd.

“Mae 9Bach yn deulu,” meddai Lisa Jên.

“‘Da ni’n ŵr a gwraig, ‘da ni’n frawd a chwaer, ‘da ni’n ffrindiau gorau.

“‘Da ni efo’n gilydd ers 15 mlynedd felly mae cael dod at ein gilydd i greu cerddoriaeth yn ddiweddar yn sbesial iawn.”

Wedi’i lansio yn Awst 2019, mae Lŵp yn blatfform digidol sy’n cynnig llwyfan newydd ar gyfer cerddoriaeth a diwylliant cyfoes Cymraeg o bob math.

Dyma’r sesiwn 9Bach: