Mae Carwyn Ellis & Rio 18 wedi rhyddhau sengl newydd o’r enw ‘Lawr yn y Ddinas Fawr’ ers dydd Gwener diwethaf, 29 Ionawr.
Mae’r trac newydd yn flas pellach o ail albwm y prosiect, ‘Mas’, fydd yn cael ei ryddhau’n swyddogol ar 26 Chwefror.
Rhyddhawyd sengl arall o’r albwm newydd, ‘Ar ôl y Glaw’, ar ddiwedd mis Tachwedd.
Fel yr albwm cyntaf, mae’r sengl, a’r albwm newydd, wedi’i gynhyrchu gan y cynhyrchydd amlwg o Frasil, Kassin. Mae’r gwaith celf gan Diego Medina.
Mae modd rhag archebu’r albwm, gan gynnwys ar fformat feinyl (mmmm, feinyl…) ar safle Bandcamp y prosiect nawr ac mae’r sengl ar yr holl lwyfannau digidol arferol.