Lisa Pedrick yn cydweithio gyda Geth Tomos

Mae’r gantores o Waun-Cae Gurwen, Lisa Pedrick wedi troi at gyd-weithio gyda cherddor profiadol arall ar gyfer ei sengl newydd sydd allan ddydd Gwener yma,  6 Awst.

Mae Geth yn gerddor amryddawn ond mae’n siŵr ei fod yn fwyaf adnabyddus i ffans cerddoriaeth Gymraeg fel aelod o’r band roc Gwacamoli oedd yn amlwg iawn ar droad y mileniwm.

Enw’r sengl newydd gan y ddau ydy ‘Hedfan i Ffwrdd’ ac mae’n anthem emosiynol a theimladwy sy’n delio â galar a chariad ysbrydol.

Ysbrydoli i droi nôl at gyfansoddi

Mae cyfnod y pandemig wedi arwain at comeback o fath i Geth Tomos. Cafodd ei ysbrydoli i droi nôl at y gitâr a chyfansoddi caneuon o’r newydd yn ystod y cyfnod clo, a chanlyniad hynny oedd rhyddhau’r traciau ‘Achub y Byd (efo roc a rôl)’ a ‘Byw mewn Harmoni’ ychydig fisoedd yn ôl.

Yn ddiweddarach mae hefyd wedi rhyddhau’r trac ‘Darn Ohonaf i’ gyda’r cerddor Neil Williams o’r grŵp Maffia Mr Huws.

Nid annhebyg ydy hanes Lisa Pedrick dros y flwyddyn ddiwethaf wrth iddi hithau ail-ymddangos ar y sin llynedd gyda chyfres o senglau a arweiniodd at ryddhau’r EP ‘Dim ond Dieithryn’ ym mis Tachwedd – EP a gipiodd wobr ‘Record Fer Orau’ Gwobrau’r Selar.

Er yn sain newydd i’r ddau yn 2021, nid dyma’r tro cyntaf i Lisa a Geth gydweithio ar drac. Mae bron ugain mlynedd wedi mynd heibio ers iddynt ryddhau eu fersiwn o ‘Cwmwl Naw’, sef un o ganeuon mwyaf adnabyddus Gwacamoli.

Cân llawn emosiwn

Daw emosiwn y trac newydd ‘Hedfan i Ffwrdd’ gan Gath yn fyw trwy lais yr amryddawn Lisa yn ôl y cerddor a chyfansoddwr.

“Mae ‘na lawer o bethau wedi digwydd yn yr ugain mlynedd diwethaf sydd wedi newid trywydd fy mywyd” meddai Geth Tomos.

“‘Sgrifennais ‘Hedfan i Ffwrdd’ ar ôl colli ffrind agos. Mae’r gân yn edrych ar sut mae galar yn gallu effeithio ein bywydau ond hefyd yn dangos i ni sut i fyw. Roedd gweithio gyda Lisa yn ddewis amlwg i mi gan bod yna ddyfnder emosiynol i’w llais sy’n berffaith i adrodd y stori.”

Dywed Lisa hithau bod neges bwysig ar y trac newydd.

“Mae ‘Hedfan i Ffwrdd’ yn gân bersonol iawn i Geth ond yn un sy’n trafod pwnc sydd angen i ni fynd i’r afael â hi yn well” meddai Lisa.

“Mae’n realiti bywyd sy’n effeithio ni gyd mewn ffyrdd unigryw, brawychus a gwahanol. Roedd yn bwysig iawn i fi fy mod yn cyfleu’r emosiwn, a’r galar, mewn ffordd cydymdeimladol tra’n gwneud cyfiawnder â gwaith a phrofiad personol Geth.”

Dyma Lisa a Geth yn perfformio’r trac ar raglen Heno yn ddiweddar: