Lleuwen yn rhyddhau ‘Y Gair’

Mae Lleuwen wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf sy’n ei gweld yn cyd-weithio gydag artist annisgwyl.

‘Y Gair’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ers 20 Rhagfyr, ac mae’r gantores dalentog wedi cyd-weithio gyda’r actor Wynford Ellis Owen ar y gân.

Nid yw Wynford yn cael ei adnabod fel cerddor fel arfer, ond mae’n actor cyfarwydd yng Nghymru – ei gymeriad enwocaf mae’n siŵr ydy Syr Wynff yn y gyfres gomedi 1980au i blant, ‘Syr Wynff a Plwmsan’. 

Mae Wynford yn benthyg ei lais i’r sengl newydd gan adrodd darlleniad dros y gerddoriaeth. Dehongliad o adnodau cyntaf yr efengyl yn ôl Ioan yn y beibl ydy’r darlleniad.

Mae’r sengl newydd allan ar label Lapous, gyda’r gerddoriaeth a chynhyrchu wedi’i wneud gan Lleuwen yn Scrignac, Breizh yn Llydaw a Wynford yntau wedi recordio ei lais yng Nghymru.