Llyfr Caneuon DnA

Mae’r grŵp gwerin mam a merch, DnA, wedi cyhoeddi llyfr newydd sy’n cynnwys alawon eu caneuon.

DnA ydy Delyth ac Angharad Jenkins – mae Angharad hefyd yn gyfarwydd fel aelod o’r grŵp Calan.

Mae’r llyfr yn cynnwys yr holl gerddoriaeth oddi ar dau albwm DnA, sef ‘Adnabod’ a ‘Llinyn Arian’, wedi’u trefnu ar gyfer ffidil a thelyn.

Mae’r llyfr hefyd yn cynnwys y cordiau, felly yn addas ar gyfer unrhyw offeryn cyfeiliant e.e. y gitâr neu’r piano, ac mae’r llinell dop yn addas ar gyfer unrhyw offeryn alaw er enghraifft ffliwt neu chwiban.

Mae modd archebu’r llyfr ar wefan DnA.