Bydd y grŵp pync addawol o Gaerdydd, SYBS, yn rhyddhau eu sengl newydd ar ddydd Gwener 4 Mehefin.
‘Llygaid’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf gan y pedwarawd ifanc cyffrous sydd wedi cipio’r sylw dros y tair blynedd diwethaf.
SYBS ydy Osian Llŷr, Herbie Powell, Dafydd Adams a Zach Headon ac maen nhw’n cael eu disgrifio fel band pync-indî-slacyr ffrwydrol o’r brifddinas. Ffrwydrodd y grŵp i sylw’r genedl wrth gipio teitl Brwydr y Bandiau Maes B a Radio Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 2018.
Y flwyddyn ganlynol, rhyddhawyd sengl gyntaf y grŵp, ‘Paid Gofyn Pam’, sydd wedi dod yn anthem ymysg nifer o selogion y sin. Ers hynny maen nhw wedi mynd o nerth i nerth gan berfformio yng ngŵyl SUNS yn Yr Eidal, ynghyd â rhyddhau’r senglau ‘Cwyr’ (Ebrill 2020) ac ‘Anwybodaeth’ (Gorffennaf 2020).
Ar y sengl ddiweddaraf, mae prif ganwr a gitarydd y grŵp, Osian, yn ein harwain ar lwybr mwy myfyriol, jangli ac ar brydiau mwy meloncolig na senglau blaenorol SYBS. Mae’r trac hefyd yn cynnwys sain annisgwyl y tubular bells.
“Ysgrifennais i’r gân yma yn ystod fy mlwyddyn gyntaf yn y brifysgol, a gwelais newid cywair i mi wrth ysgrifennu cerddoriaeth” eglura Osian.
“Roedd llawer o’n caneuon i gynt yn rhai dawnslyd a llawn egni, felly roedd e’n teimlo’n dda gallu ysgrifennu cân oedd yn fwy mewnblyg, ac roedd y geiriau yn sicr yn adlewyrchu’r wythnosau olaf yn fy mlwyddyn cyntaf yn y brifysgol.
“Mae’n rhyfedd gwrando yn ôl oherwydd recordion ni’r darnau olaf ychydig ddyddiau cyn i mi fynd adre ar gyfer y clo mawr, ychydig dros flwyddyn yn ôl, sydd felly yn gwneud y gân hyd yn oed fwy nostalgic am y rheswm hynny. Gobeithio gallwn ni greu mwy o atgofion wrth chwarae’r trac yn fyw yn fuan!”
Bydd y sengl yn cael ei rhyddhau ar label Recordiau Libertino ar 4 Mehefin.