‘Llyn Llawenydd’ yn cynnig blas o albwm Papur Wal

‘Un rhan Beatles cynnar, a’r rhan arall fel Lou Reed yn cyfleu ei holl erchylltra angerddol’ – dyna ddisgrifiad Recordiau Libertino o sengl ddiweddaraf y triawd Papur Wal.

Mae ‘Llyn Llawenydd’ allan ar y label hwnnw ers ddoe, ac mae’n nodweddiadol o haenau diddiwedd o harmonïau a fuzz y grŵp yma sy’n dyheu i wisgo eu calonnau ar eu llawes.

Does dim amheuaeth bod Papur Wal yn grŵp wastad unigryw yn y Gymraeg – yn cyfuno dylanwadau slacyr di-gyfaddawd gydag alawon pop heintus i ffurfio mosäig cerddorol sy’n hyfryd o amrwd.

A’r newyddion da ydy eu bod ar fin cymryd y cam hyderus nesaf fel grŵp sefydledig gan fod y sengl ddiweddaraf yn flas o albwn cyntaf y grŵp, ‘Amser Mynd Adra’.

Wrth ryddhau ‘Llyn Llawenydd’ Mae Papur Wal hefyd wedi cyhoeddi y bydd eu halbwm yn cael ei ryddhau ar 8 Hydref eleni.

Mae ‘Llyn Llawenydd’ yn gân hafaidd sy’n adlais o sŵn West Coast y 1970au cynnar ac yn cael ei disgrifio fel “Crosby, Stills and Nash i gyfeiliant diamser rhythmau Merseybeat.”

Dyma’r ymgais gyntaf gan Gwion (Llais / Bas) a Ianto (Llais / Gitar) i ysgrifennu gyda’i gilydd yn ôl pob tebyg, ac mae’r canlyniad yn un addawol.

Yn ôl y grŵp mae’r gân yn sôn am “le lle ti’n mynd i efo’r pobl sy’n bwysig i chdi i ddianc rhag bob dim. Does dim rhaid iddo fod yn lyn, a di’r tywydd ddim bob tro’n berffaith, ond ti’n dod nôl yn teimlo’n well, a methu aros i fynd nôl eto”.

Prif lun: Papur Wal @ Gwobrau’r Selar, Chwefror 2020 (FfotoNant / Y Selar)