Lois Gwenllian sy’n rhoi ei barn ar y darllediad ‘Maes B: Merched yn Gwneud Miwsig’ a ddarlledwyd gan Lŵp, S4C nos Wener fel rhan o arlwy Eisteddfod AmGen eleni.
Pan ti’n clywed y geiriau “Maes B”, mae’n debygol mai’r hyn sy’n dod i dy ben di – yn enwedig i bobl fy oed i – ydy sesh, Bryn Fôn, bachu a boreau wedyn ‘sa well gen ti eu hanghofio. Ond fel popeth da, mae Maes B wedi esblygu yn rhywbeth llawer mwy nag esgus i teenagers gwyllt Cymru gael yfed, smocio a… wel, be’ bynnag maen nhw isio’i wneud mewn portaloos yn oriau mân y bore.
Er mai cerddoriaeth fyw yw curiad calon Maes B ers y dechrau, ac yn parhau i fod o hyd, mae’r enw yn sefyll am lawer mwy erbyn hyn: cynwysoldeb, tegwch, caredigrwydd, amrywiaeth a’r awydd i sicrhau fod pawb yn cael amser da a chroeso. Hefyd, mae’r arlwy yn para’n hirach na dim ond saith diwrnod ym mis Awst. Ond i mi, un o’r pethau sydd wedi sefyll allan dros y ddwy flynedd ddiwethaf yw’r cynllun Merched yn Gwneud Miwsig. Prosiect ydyw i annog merched i fentro mewn i’r byd cerddoriaeth gyda hyder ac arddangos cerddoriaeth gan ferched mewn ffordd ddyfeisgar. Mae Maes B wedi cynnal sawl gweithdy yn Galeri a Clwb Ifor Bach gyda rhai o sêr cyfredol y sîn fel Heledd Watkins (HMS Morris) a Gwenllian Anthony (Adwaith) i enwi dim ond dwy, ac yn rhyddhau podlediad dan yr un enw.
Yn rhan o arlwy Eisteddfod AmGen ar S4C darlledwyd un o brosiectau mwyaf uchelgeisiol Merched yn Gwneud Miwsig hyd yma. Rhaglen awr yn ein harwain ni, a’r gyflwynwraig Sian Eleri, ar daith gerddorol yng nghwmni rhai o’r merched sy’n creu cerddoriaeth gyffrous ac yn gwthio ffiniau’r iaith yn greadigol.
Mae’n dechrau gyda Sian Eleri yn cerdded drwy be’ alla i ond ei ddisgrifio fel anialdir efo delweddau adnabyddus yr Eisteddfod wedi’u gwasgaru yma ac acw. Gallai fod yn olygfa agoriadol o ffilm ôl-apocalyptaidd ar faes y ‘Steddfod tan y gwelwn ni ddau ffigwr Daft Punk-aidd tu draw i fwa orengoch Croeso i’r Eisteddfod, mewn helmedau siâp pen llwynog wedi’u gwneud â drychau. Mae’r ddau ffigwr sydd mewn overalls pinc yn agor y drysau i Sian, a dyna ni, rydym ni yng nghanol anhrefn setiau ac adeiladau’r brifwyl – y warws yn Llanybydder – ac mae’n edrych yn anhygoel!
Dan olau neon glas, Adwaith sy’n agor y rhaglen gyda’u fersiwn wunigry nhw o “Ar Lan y Môr”, ar ôl gorffen mae’r triawd yn egluro i Sian Eleri ble mae hi a beth sy’n ei disgwyl dros yr awr nesaf. Kitsch and Sink yw’r ddau ffigwr yn yr helmedau a’r gwisgoedd pinc, a nhw (a delweddau eraill od!) fydd yn tywys Sian drwy’r storfa hon o wrthrychau eiconig yr Eisteddfod Genedlaethol, ond chwilfrydedd naturiol ac angerdd y gyflwynwraig at y gerddoriaeth sy’n ein tywys ni.
Ar ei thaith drwy be’ fyddai i rywun sydd ddim yn gyfarwydd â’r Eisteddfod yn edrych fel diwedd rave mewn iard sgrap, mae’n cael perfformiadau gan Eädyth, Hana Lili, Asha Jane a Thallo ynghyd â sgwrs fer gydag ambell un ohonynt yma ac acw. Un arall mae hi’n eistedd lawr i sgwrsio â hi yw Elan Evans, un o benseiri’r cynllun arloesol Merched yn Gwneud Miwsig. Maen nhw’n sgwrsio am ac yn cydnabod rhai o’r merched blaenllaw sydd wedi gosod y slabiau cerddorol Cymreig i’r merched hyn gael eu dilyn, fel Y Gwefrau, Swci Boscawen, Gwenno a Cate le Bon er enghraifft.
Cyn hir mae dwy lygad yn rholio hen set deledu yn ymddangos o flaen cadair Sian, a thrwy sgrin y teledu cawn berfformiad arbennig gan y pianydd Gwenno Morgan a Casi o ‘Whatsappio Duw’. Perfformiad sydd, yn fy marn i, yn crynhoi llawer o bryderon a phroblemau sydd ar feddwl y genhedlaeth nesaf o fynychwyr Maes B hefyd. Roedd hwn yn uchafbwynt annisgwyl i mi.
Cawn ddau berfformiad gan bob artist yn y warws, a chyn pen dim, mae awr wedi diflannu. Roedd yn wledd gerddorol, weladwy ac yn atgoffa rhywun cymaint mae angen y sîn fyw Gymraeg ar bobl ifanc Cymru – ac ar ferched ifanc Cymru.
Nid llythyr cariad at ferched y sîn mo’r rhaglen, byddai hynny’n ddisgrifiad rhy syml i o’r bybyl lliwgar, creadigol, cyffrous sydd newydd fyrstio ar ein sgrin. Nid yw ‘chwaith yn flashmob dros ben llestri yn datgan cariad yn uchel ei gloch. Mae’n fwy fel llwy garu i’r merched a fu, sydd ac a fydd yn gwneud miwsig yng Nghymru, a phob elfen ohoni wedi’i cherfio’n ofalus i arddangos crefft unigryw pob rhan o’r cyfanwaith hudolus hwn.
Ydy, mae’r hyn mae Maes B yn ei gynrychioli wedi esblygu.
Yn wir, mae chwaer fach yr Eisteddfod wedi tyfu fyny.
Mae modd gwylio’r rhaglen ar alw ar BBC Iplayer nawr.
Mae Lois wedi creu rhestr chwarae arbennig o’r artistiaid oedd ar y rhaglenn – cliciwch isod i chwarae.