Mali Hâf yn rhyddhau sengl ar Sain

Mae Mali Hâf wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf, ‘Be Sydd Nesaf’, ar label Recordiau Sain.

Mae’r artist addawol wedi bod yn gynhyrchiol iawn hyd yn hyn yn 2021 gan ryddhau nifer o senglau a chydweithio gyda’r cynhyrchydd Shamoniks a’i label, Recordiau UDISHIDO.

Er hynny, mae’r sengl ddiweddaraf yn cael ei rhyddhau ar Recordiau Sain. Yn ôl y label maent yn falch gallu rhyddhau sengl ddiweddaraf Mali, sy’n arddangos sain newydd a gwir lais y gantores o Gaerdydd o ganlyniad i gydweithio gyda’r cynhyrchydd a’r cerddor o Lydaw, Guillaume Sawula (Geerson / Archi).

Mae ‘Be Sydd Nesaf’, sy’n pendilio rhwng y chwareus a’r tywyll, yn frith o ddylanwadau Celtaidd ac ysbrydol ac yn adlewyrchu’r anfodlonrwydd cyffredinol a deimlwn ar brydiau yn ein bywydau a’r ysfa a’r awch am rywbeth gwell o hyd sy’n aml yn ein gyrru i’r pegwn eithaf.

Wedi cyfnod yn Leeds yn astudio cerddoriaeth mae Mali bellach yn ôl yng Nghymru ac yn brysur yn hyrwyddo ei gyrfa fel perfformiwr.