Mared sydd wedi ennill Albwm Cymraeg y Flwyddyn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni gyda’i record hir gyntaf, ‘Y Drefn’.
Rhyddhaodd y gantores o Ddyffryn Clwyd yr albwm bron union flwydd yn ôl ym mis Awst 2020 gan dderbyn clod yn syth am y casgliad oedd yn cynnwys y senglau ‘Pontydd’, ‘Dal ar y Teimlad’ ac ‘Y Reddf’ a oedd wedi’u rhyddhau cyn hynny.
Ym mis Chwefror eleni cafodd Mared gryn lwyddiant yng Ngwobrau’r Selar gan gipio dwy wobr, y gyntaf am ‘Seren y Sin’ a’r ail am yr ‘Artist Unigol Gorau’ yn nhyb y pleidleiswyr.
Mae Mared wedi bod yn amlwg ar lwyfannau Cymru ers sawl blwyddyn fel aelod o’r grŵp Trŵbz. Mae hefyd wedi dechrau gwneud enw i’w hun yn y byd sioeau cerdd ac roedd yn rhan o gast sioe West End ‘Les Mis’ yn Theatr Sondheim, Llundain ar ddechrau 2020 cyn i’r pandemig roi stop ar bopeth.
Cafodd senglau cyntaf Mared groeso cynnes gan nifer o gyflwynwyr radio gan gynnwys Janice Long, Adam Walton a Beth Elfyn ar BBC Radio Wales, yn ogystal â gwahoddiad i wneud sesiynau byw a chyfweliadau ar sioeau BBC Radio Cymru Georgia Ruth a Huw Stephens.
Doedd dim modd cynnal lansiad traddodiadol i’r casgliad oherwydd cyfyngiadau Covid-19, felly cynhaliwyd lansiad rhithiol i’r albwm flwyddyn yn ôl gyda Mared yn perfformio’r casgliad yn llawn o Stiwdio Sain yn Llandwrog.
Diolchgar
Wrth ymateb i’r newyddion roedd Mared yn amlwg wrth ei bodd i gipio’r wobr.
“Dwi wirioneddol mor mor ddiolchgar i bawb am y gefnogaeth a’r negeseuon bendigedig” meddai Mared.
“Roedd cael bod ar y rhestr fer yn fraint yn ei hun! Diolch i I KA CHING, Osian, Ifan, Branwen ac Elin. A hefyd Aled a Gwyn am chwarae ar yr albwm.
“Diolch hefyd i Radio Cymru a Steddfod am y cyfle arbennig iawn i gael canu efo BBC NOW. Ac i Owain Gruffudd am y trefniannau gwefreiddiol!”
Yn ôl yr Eisteddfod, roedd Mared yn enillydd teilwng o’r wobr eleni.
“Ry’n ni wrth ein boddau bod Mared wedi ennill y wobr hyfryd hon eleni” meddai Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod.
“Dechreuodd ei gyrfa’n cystadlu ar ein llwyfan ni, ac mae’n wych dilyn ei llwyddiant dros y blynyddoedd.
“Roedd yn bleser ei chroesawu hi’n ôl i’r Eisteddfod yr wythnos yma, fel rhan o’r Eisteddfod Gudd a Gig y Pafiliwn. Ry’n ni’n dymuno pob llwyddiant iddi yn y dyfodol.”
Fel gwobr, mae Mared yn derbyn tlws arbennig sydd wedi’i gynllunio a’i greu gan Tony Thomas, crefftwr yr Eisteddfod. Fel nifer o weithiau eraill Tony, gan gynnwys y llythrennau mawr sy’n sillafu’r gair ‘Eisteddfod’, mae tlws Albwm Cymraeg y Flwyddyn wedi’i greu allan o un o hen greiriau’r Eisteddfod. Y tro hwn, mae Tony wedi defnyddio cog oddi ar hen jac codi baw a ddefnyddiwyd gan yr Eisteddfod nôl yn Eisteddfod Bro Madog, 1987 er mwyn cynrychioli record fel rhan o’r Tlws unigryw hwn.
Yn ôl yr arfer, panel o feirniaid sy’n rhan o’r diwydiant cerddoriaeth oedd yn gyfrifol am ddewis enillydd y wobr, ac roedd y panel eleni’n cynnwys Dylan Cernyw, Dylan Hughes, Dylan Jenkins, Eilir Owen Griffiths, Ifan Davies, Marged Gwenllian, Marged Rhys, Nia Mai Daniel, Rhiannon Lewis a Tegwen Bruce-Deans.
Roedd 10 o albyms sydd wedi’u rhyddhau rhwng 31 Mai 2020 a diwedd Mai 2021 ar y rhestr fer ar gyfer y wobr, sef:
- Carw – Maske
- Carwyn Ellis & Rio 18 – Mas
- Cwtsh – Gyda’n Gilydd
- Datblygu – Cwm Gwagle
- Elfed Saunders Jones – Gadewaist
- Jac Da Trippa – Kim Chong Hon
- Mared – Y Drefn
- Mr – Feiral
- Mr Phormula – Tiwns
- Tomos Williams – Cwmwl Tystion