Y gantores o Ddyffryn Clwyd, Mared ydy canolbwynt pennod ddiweddaraf cyfres ‘Curadur’ gan Lŵp ar S4C.
Darlledwyd y bennod nos Iau diwethaf, 4 Mawrth ac mae’n cynnwys cyfraniadau gan Morgan Elwy, Gwenno Morgan, Osian Williams, Aled Hughes a Gwyn Owen.
Mae Mared wedi cael dechrau ardderchog i 2021 ar ôl cipio dwy o Wobrau’r Selar fis diwethaf, ac mae’r bennod Curadur yn gip bach dfyr tu ôl i’r llenni
Mae modd gwylio eto ar alw ar BBC iPlayer am y tro.
Dyma un o eitemau’r bennod sy’n gweld Mared yn perfformio ‘Llif yr Awr’ gyda Gwenno Morgan yn Steshon Bangor: