Mae Band Pres wedi rhyddhau ail sengl i roi blas o’u halbwm newydd heddiw.
‘Meillionen’ ydy’r trac diweddaraf ganddynt ac mae’n dilyn ‘Synfyfyrio’ a ryddhawyd ar 23 Gorffennaf.
Fersiwn y band pres unigryw o albwm Big Leaves, ‘Pwy Sy’n Galw?’ ydy’r albwm newydd sydd allan ddydd Gwener nesaf, 27 Awst, gyda gwestai arbennig yn ymddangos ar y rhan fwyaf o’r caneuon.
Y gwestai ar ‘Meillionen’ ydy’r artist neo-soul ac electro gwych o Ferthyr, Eädyth. Mae’r trac yn dwyn ysbrydoliaeth gan gerddoriaeth soul gyda llinellau cyrn bachog a harmonïau swynol y gantores dalentog.
Pleser cyd-weithio
“Pleser mawr cyd-weithio gyda Eädyth am y tro cyntaf! Am dalent!” meddai Owain Roberts, arweinydd Band Pres Llareggub.
“Bu i mi gysylltu gyda Eädyth yn ganol y cyfnod clo ac wedi i mi yrru trac fras draw iddi, mi gefais ateb sydyn yn ôl gyda’r holl draciau llais wedi ei recordio gyda harmonïau celfydd. Bu iddi godi’r trefniant i’r lefel nesaf yn sicr!”
Bu i Eädyth ac Owain gyd-weithio ar y trac heb gyfarfod nac ychwaith siarad gyda’i gilydd! Y tro cyntaf iddynt gyfarfod oedd ar lwyfan yr Eisteddfod Gudd wythnos diwethaf ble bu i Eädyth berfformio’r gân yn fyw am y tro cyntaf. Gobaith y band yw i gyd-weithio gydag Eädyth eto yn fuan!
Mae’r albwm ‘Pwy Sy’n Galw?’ allan ar ddydd Gwener 27 Awst ar ffurf feinyl a digidol. Mae modd rhag archebu’r record nawr ar safle Bancamp Band Pres Llareggub.
Bydd cyfle i weld Band Pres Llareggub yn perfformio’n fyw dros y misoedd nesaf, gan gynnwys yn gig cloi Gŵyl Gocrit yng Nghanolfan Pontio, Bangor ar 22 Awst ac yng Ngŵyl AberJazz yn Abergwaun ar 29 Awst.
Rhestr Traciau’r albwm a’r gwestai arnynt
1 Dilyn Dy Drwyn
2 Pryderus Wedd (feat. Ifan Pritchard)
3 Meillionen (feat. Eadyth)
4 Whistling Sands (feat. Kizzy Crawford)
5 Blêr (feat. Yws Gwynedd)
6 PhD (feat. Katie Hall)
7 Synfyfyrio (feat. Mared Williams)
8 Byw Fel Ci (feat. Rhys Gwynfor)
9 Pwy Sy’n Galw?
10 Barod i Wario
11 Seithenyn (feat. Tara Bethan)
Gigs Band Pres Llareggub
22 Awst – Gwŷl Goncrid, Pontio
29 Awst – AberJazz
9 Hydref – Focus Wales
28 Rhagfyr – Neuadd Ogwen
31 Hydref – Mast & Pres