Mellt yn rhyddhau ‘Marconi’

A hwythau nôl yn gigio yng Nghlwb Ifor Bach penwythnos diwethaf, mae Mellt hefyd wedi rhyddhau sengl newydd.

‘Marconi’ ydy enw’r trac newydd gan y triawd ac yn ôl y band, mae hon yn flas cyntaf o’u halbwm nesaf. 

Mellt ydy Glyn Rhys-James (gitâr a phrif lais), Ellis Walker (bas a llais cefndir), a Jacob Hodges (dryms). Ffurfiwyd y grŵp yn wreiddiol yn Aberystwyth dan yr enw Y Gwirfoddolwyr, cyn newid i Mellt yn haf 2012. Roedd Glyn ac Ellis yn aelodau o’r band gwreiddiol gyda dau ffrind ysgol arall, ond ymunodd Ellis yn ddiweddarach. 

Rhyddhawyd albwm llawn cyntaf y grŵp, ‘Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc’, ym mis Ebrill 2018 ac y mis Awst canlynol cyhoeddwyd bod y record wedi dod i frig cystadleuaeth ‘Albwm Cymraeg y Flwyddyn’ yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd. 

Ar ôl llwyddiant eu halbwm cyntaf, dechreuodd Mellt recordio eu ail LP yn stiwdio JigCal nôl yn Ionawr 2020. 

Gyda’r cyfnod clo’n amharu ar y cynlluniau, llwyddodd yr aelodau i ddal ati i recordio ambell offeryn yn eu cegin yng Nghaerdydd gan fod y tri’n rhannu tŷ. Yna, dros y misoedd diwethaf maent wedi llwyddo i ddychwelyd i’r stiwdio er mwyn cwblhau gwaith ar y sengl newydd sbon. 

Teyrnged i ddyfeisiwr y radio

Mae’r gân yn sôn am ddyfeisiwr enwog y radio, Guglielmo Marconi, a’i negeseuon sy’n dal i deithio drwy’r bydysawd. 

Mae egni cyfarwydd y band mor amlwg ag erioed ar y sengl newydd, ond yn ôl JigCal mae datblygiad rhythmau a’r chordiau i’w clywed yn eu sŵn. Maent hefyd wedi arbrofi mewn modd annisgwyl trwy rhyddhau’r gân mewn ffurf mono. 

“Mae’n bleser gallu rhannu be ni di bod yn gweithio ar ac ymddiheuriadau am gymryd ein amser gyda hi!” meddai Glyn am y sengl newydd. 

Mae fideo gan Sam Stevens yn cyd-fynd â’r gân, ac yn hwn cawn weld y band yn teithio trwy’r gofod pell! 

Roedd Mellt yn dathlu lansio ‘Marconi’ drwy chwarae gig yn Clwb Ifor Bach nos Sadwrn diwethaf, 4 Rhagfyr, gyda’u ffrindiau o label JigCal, y band Hyll.    

Yn ôl JigCal, bydd yr albwm llawn newydd yn glanio yn fuan yn 2022. 

Dyma’r fideo: