Mae sengl newydd Thallo, ‘Mêl’, allan heddiw ar label Recordiau Côsh – Tegwen Bruce-Deans sydd wedi bod yn sgwrsio gyda’r gantores sy’n gyfrifol am y prosiect ar ran Y Selar.
(Lluniau – Anxious Film Club)
Gyda gwreiddiau jazz amgen sy’n blaguro i drefniannau cymhleth o elfennau seicadelig, electronig a gwerinol, diau mai un o drysorau cudd y sin gerddoriaeth Gymraeg ydy Thallo.
Prosiect y gantores Elin Edwards o Benygroes a’i band yw’r greadigaeth gyfriniol hon, a ddaeth i amlygrwydd yn 2019 gyda llwyddiant rhyddhau’r sengl ‘I Dy Boced’.
Mae’r prosiect yn cymryd ei enw oddi wrth hen dduwies Roegaidd y Gwanwyn, sef amddiffynwraig tyfiant newydd. Ac yn wir, mae egin newydd wedi dod o gyfeiriad y band gyda rhyddhau ei sengl hir ddisgwyledig newydd, ‘Mêl’, ar ddydd Gwener, 5 Mawrth trwy label Recordiau Côsh.
Cymhlethdod cudd a deniadol
Dyma sengl sy’n plethu sŵn cyfoethog naturiol gyda thinciau jazz ac indie, gyda dylanwad hoff fand Elin, Big Thief, yn stamp amlwg arno.
Llwydda Thallo i greu awyrgylch hamddenol sy’n dwyllodrus o syml, er gwaethaf yr haenau sonig cymhleth sy’n britho’r trac. Cymhlethdod cudd a deniadol sy’n gefn i ddelweddau’r sengl hefyd.
“Yr ysbrydoliaeth tu ôl i’r gân yw ofni rhywbeth da rhag i mi ei golli, heb ymdrechu llawer i wrthsefyll y temtasiwn” meddai Elin.
“Yn y gân, rydw i’n mwynhau melyster mêl, sydd yn troi yn chwerw-felys yn sydyn iawn!”
Gwelwn y ddeuoliaeth rhwng melys a chwerw, ac aur a duwch, yn cael ei chyflwyno i ni’n weledol trwy’r fideo cerddoriaeth, a ryddhawyd ar y cyd gyda’r sengl ar sianel YouTube Lŵp.
Oherwydd y cyfyngiadau presennol, esboniodd Elin sut yr oedd yn rhaid iddi ddilyn trywydd llythrennol symbol y mêl a duwch y chwerwder yn ei gân er mwyn hwyluso’r broses o ffilmio, gan beri iddi gael ei gorchuddio’n gyfan gwbl gan fêl du erbyn diwedd y fideo. Mae hyn yn cyferbynnu â cheisio rhywbeth mwy cymhleth ac amwys fel sydd yn fideo trawiadol, aml haenog ‘I Dy Boced’.
“Oherwydd y cyfnod clo, doeddwn i methu cael criw at ei gilydd i ffilmio, ac roedd rhaid cael props syml oedd yn hawdd cael gafael arno neu i’w creu” eglura.
“Dwi hefyd yn delio gyda mobility issues ar y funud, sy’n golygu cyfyngiadau corfforol. Felly roedd rhaid dod fyny efo syniad creadigol iawn! Cefais fy housemate Jule Sonntag (sydd yn ffotograffydd) i fy ffilmio yn y tŷ o flaen green screen a projector.”
Dylanwad Natur
Mae elfen drosiadol y mêl yn cydweddu’n berffaith gyda naws farddonol geiriau’r sengl newydd, ac yn wir nifer eraill o draciau Thallo hefyd.
Wrth ynysu’r geiriau oddi wrth y gerddoriaeth, ymddangosent yn fwy fel darnau o farddoniaeth fodernaidd sy’n ddiymdrech o gain a naturiol. Dyma’n union a wnaeth zine Merched yn Gwneud Miwsig i eiriau’r sengl ‘I Dy Boced’, wedi i Siân Eleri ofyn i Thallo gyfrannu at y rhifyn diweddaraf.
“Galanas o wyrddlas briodas rhwng y nos a’r ddaear,” synfyfyria, gan dynnu ar ysbrydoliaeth natur i fynegi ei hemosiynau mwyaf amrwd a noeth.
Fel un o Wynedd yn wreiddiol ond yn byw yn Llundain ar hyn o bryd, mae’r cyferbyniadau rhwng amgylcheddau ei bywyd yn amlwg yn ei thraciau.
“Mae’r geiriau, wrth gwrs, gyda dylanwad natur oherwydd cefais fy magu ym Mhenygroes gyda golygfeydd anhygoel y mynyddoedd.
“Dwi wastad eisiau defnyddio ysblander natur i ychwanegu harddwch i fy nghaneuon. Ond mae’r gerddoriaeth yn cael ei ysbrydoli gan gigs dwi’n gweld a’r cerddorion dwi’n cydweithio gydag yn Llundain,” ystyria Elin.
Yn ogystal â bod yn falch o’i gwreiddiau a hunaniaeth ddaearyddol, mae’n amlwg o’i chyfraniad at zine Merched yn Gwneud Miwsig fod Elin yn falch o fod yn fenyw yn creu cerddoriaeth yn y Gymraeg hefyd.
“Dwi’n teimlo angerdd cryf dros gydraddoldeb rhyw mewn cerddoriaeth,” meddai.
“Mae’r sin Gymraeg gam ar ei hôl hi gyda chynrychiolaeth fenywaidd. Dwi eisiau gweld bandiau yn gwahodd merched i chwarae dryms, gitâr, bass, i gynhyrchu…dim just bod yn gantorion! Mae gan ferched lot fwy i gynnig na just hynny.”
Colli amser
Rhwystr arall y mae Elin, ynghyd â phob artist cerddorol arall, wedi profi dros y flwyddyn ddiwethaf, ydy effeithiau’r pandemig ar y broses o greu a chyhoeddi cerddoriaeth.
Cyhoeddwyd bwriad Thallo i ryddhau cyfres o senglau mewn partneriaeth gyda Recordiau Côsh tua blwyddyn yn ôl bellach, wedi iddi sefydlu perthynas gweithiol gyda Yws Gwynedd ar ôl i Ifan Dafydd gyhoeddi ailgymysgiad o ‘I Dy Boced’ trwy’r label yn 2019. Ond cafodd y broses o ryddhau’r senglau ei arafu a’i addasu’n sylweddol gan gyfyngiadau newidiol y llywodraeth, yn enwedig pan fod rhyngweithio â cherddorion eraill mor allweddol at hanfod prosiect Thallo.
“Dwi’n chwarae gyda band reit fawr yn cyfeilio ac felly roedd y ffaith ein bod ni methu gweld ein gilydd i gael jamio wedi gwneud ysgrifennu deunydd newydd yn anodd iawn” meddai Elin.
“Recordiwyd un o’r senglau heb i fi ymarfer efo rhai cerddorion o gwbl a just gobeithio bod y trefniant ‘sgwennais i yn gweithio ar y diwrnod yn y stiwdio! Dwi’n ofni mod i wedi colli yr amser yna o ymarfer a datblygu oherwydd y pandemig.”
Fodd bynnag, diau fod Thallo wedi gwneud y gorau o sefyllfa anodd, ac wedi ein paratoi at wledd o senglau electronig, jazz amgen sydd i’w ddod trwy label Côsh dros y misoedd nesaf.
Ac er y dylem ddisgwyl taith sonig ychydig yn wahanol i ‘Mêl’ yn y senglau dilynol, awgryma Elin fod llinyn cyswllt yn tynnu’r traciau ynghyd.
“Maen nhw i gyd gyda chymeriad eu hunain o’r rhan sain, ond gyda’r un thema yn eu cysylltu. Mae neges chwerw felys, tywyll, a ‘chydig yn tragic yn rhedeg trwy’r senglau i gyd!”
Gyda’r casgliad o senglau ar waith, a’r gobaith fod albwm ar y gorwel rhyw ddydd, yr unig beth all Thallo ei gwneud nawr ydy aros i ffrwyth ei gwaith caled cael ei gyflwyno i’r byd, a gobeithio y cânt berfformio’r traciau i ni eu hunain yn y dyfodol agos.
Yn y cyfamser, bydd cyfle i weld Thallo yn perfformio ‘Mêl’ yn fyw am y tro cyntaf trwy ffrwd byw tudalen Facebook Tŷ Pawb, ar Ddydd Gwener 12 Mawrth.
Lluniau: Anxious Film Club