Mae mics newydd o sengl y grŵp ôl-bync, Sister Wives, wedi ryddhau ar 5 Chwefror.
‘Wandering Along / Rwy’n Crwydro’ ydy’r trac dan sylw gan y grŵp o Sheffield, ac mae’r cymysgiad newydd yn cael ei ryddhau gan label Recordiau Libertino er mwyn nodi Dydd Miwsig Cymru.
Pedwarawd o Sheffield ydy Sister Wives, a ffurfiwyd y band yn 2018 gyda’r bwriad o greu straeon hudolus sy’n hedfan rhwng y Gymraeg a’r Saesneg, wedi’i ganu dros felodïau gwych a churiadau hypnotig. Mae eu cerddoriaeth ôl-bync seicadelig yn ffrwtian yn ddwfn tu mewn i’ch enaid.
Aelodau Sister Wives ydy Donna Lee, Lisa O’Hara, Liv Willars a Rose Love.
Yn ôl Recordiau Libertino, mae’r label wrth eu bodd i gyhoeddi’r mics newydd o , a ryddhawyd yn wreiddiol ar eu EP cyntaf, ‘Gweler Ein Gofid’ a ryddhawyd ym mis Chwefror diwethaf.
Mae’r grŵp hefyd wedi cyhoeddi y byddan nhw’n rhyddhau sengl ‘dwbl A’ newydd, sef ‘Crags & Rise / I Fyny Af’ ar y label bach o Sheffield, Delicious Clam, ar 26 Chwefror 2021.
Bydd y traciau allan yn ddigidol ac ar ffurf record feinyl 10”.