Mr Phormula yn ymuno â label newydd

Mae Mr Phormula, sef prosiect y rapiwr a bitbocsiwr talentog, Ed Holden, wedi cyhoeddi ei fod wedi ymuno â label newydd.

Cyhoeddodd Ed dros y penwythnos ei fod yn falch iawn i fod yn ymuno â label Bard Picasso Records, a’i fod yn edrych ymlaen at gyd-weithio gyda nhw.

Mae Bard Picasso yn label sydd wedi’u lleoli yng Nghaerdydd, ac yn canolbwyntio ar gerddoriaeth hip-hop.

Mae’r label yn hynod gynhyrchiol ac yn rhyddhau llwyth o gynnyrch gan artistiaid sy’n cynnwys Craze The Jack, Broke’N’Phono, In10sive, Unity & Mr Substance, Brighty a DW Smith.

Yn dilyn rhyddhau ei albwm diweddaraf, ‘Tiwns’ ym mis Tachwedd 2020, mae wedi bod yn flwyddyn dawelach i Mr Phormula o ran cynnyrch newydd. Mae wedi canolbwyntio’n bennaf ar ryddhau senglau gan gynnwys cydweithio gyda’r grŵp Ystyr ar y trac ‘Noson Arall yn y Ffair’ a ryddhawyd ym mis Mawrth, a gyda’r rapiwr o Lundain Micall Parksun ar y sengl ‘True To Self’ a ryddhawyd fis Ebrill.

Mae’r rapiwr hefyd wedi cyd-weithio â’r ddawnswraig Elan Elidyr ar gywaith rap a dawns ‘Plethu/Wave’ a gafodd ei gyhoeddi ddechrau mis Ebrill. Bu iddo hefyd ryddhau ei sengl ddiweddaraf, ‘Cell’, ddechrau mis Hydref.