Ar ôl rhyddhau ei albwm diweddaraf, Tiwns, cyn y Nadolig mae’r rapiwr a bitbocswir Mr Phormula wedi dal ati i ryddhau cynnyrch newydd ers hynny, gyda’i sengl ddiweddaraf allan wythnos diwethaf.
Ers rhyddhau’r albwm mae Mr Phormula (Ed Holden) wedi canolbwyntio ar gyd-weithio gydag artistiaid eraill gan ryddhau casgliad o ailgymysgiadau o ganeuon Tiwns gyda label Recordiau Afanc, sengl ar y cyd a’r grŵp Ystyr, a chywaith rap a dawns gyda’r ddawnswraig Elan Elidyr
Ar gyfer ei sengl ddiweddaraf, mae Ed wedi partneriaethau gyda’r rapiwr amlwg o Lundain, Micall Parksun (ynganu fel ‘Michael’).
‘True To Self’ ydy enw’r sengl newydd sydd allan ers 21 Ebrill ac mae’n gweld y ddau rapiwr yn archwilio agweddau cadarnhaol hunan-werth a goleuedigaeth dros guriad ‘boombap’ clasurol.
Mae Micall yn enw amlwg ar y sin hip-hop ers dros bymtheg blynedd. Gwnaeth ei farc go iawn yn 2005 wrth ryddhau ei albwm cyntaf, ‘Working Class Dad’ oedd yn cynnwys yr anthem tanddearol, ‘Dunya (My World)’, ac a gafodd gryn ganmoliaeth gan adolygwr ar y pryd.
Ers hynny mae wedi parhau’n weithgar gan ryddhau cynnyrch yn rheolaidd, yn aml fel rhan o brosiect at y cyd ag artistiaid eraill. Rhyddhawyd ei gynnyrch diweddaraf ar ffurf yr EP 12”, ‘Back in Business’, ym mis Rhagfyr ar label Boot Records.
Mae’r sengl newydd wedi’i chynhyrchu gan Mr Phormula ei hun yn Stiwdio Panad, ac mae hefyd wedi cynhyrchu ailgymysgiad o’r trac dan ddylanwad jazz sy’n archwilio ymhellach i’r arddull hip-hop clasurol o ganol y 1990au.