Naid at Normalrwydd: Gigs yr Eisteddfod Gudd

Roedd Tegwen Bruce-Deans yn un o’r criw dethol lwcus a lwyddodd i gael tocyn prin ar gyfer Gigs yr Eisteddfod Gudd yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar ddydd Sadwrn 31 Gorffennaf – dyma’i barn ar y profiad…

Fel arfer, yr hyn sy’n eich taro yn gyntaf wrth gyrraedd maes yr Eisteddfod Genedlaethol ydy’r sŵn. Ac yn wir, yr hyn a wnaeth fy nharo i’n gyntaf wrth gyrraedd maes yr Eisteddfod Gudd tu allan i’r undeb myfyrwyr yn Aberystwyth benwythnos diwethaf oedd y sŵn hefyd. Ond, yn wahanol i’r arfer, y diffyg sŵn oedd yn dal fy sylw eleni.

Gan weithio dan gyfyngiadau’r llywodraeth, ychydig o docynnau yn unig oedd ar gael ar gyfer gigs byw Eisteddfod Amgen 2021. Felly’n hytrach na’r crwydro a’r clebran sydd fel arfer yn digwydd o flaen y Llwyfan Perfformio, cynulleidfa awyddus a dof yn eistedd wrth eu byrddau wedi’i rhifo a wynebodd cerddorion yr ŵyl eleni.

Dim Bar Gwyrdd, dim Express Indian Cuisine, ond archebu ar-lein a gwasanaeth bwrdd oedd y drefn, a oedd yn galluogi i’r gynulleidfa fwynhau mwy o’r gerddoriaeth heb orfod sefyll mewn ciw am oriau maith. Ac eto, er y cyfleustra, anodd oedd peidio teimlo ryw hiraeth rhyfedd am y ffrindiau newydd a’r hen fu’n cyfarfod mewn ciwiau bwyd Eisteddfod dros y blynyddoedd.

O ran rhagolwg o’r ddarpariaeth gerddorol ei hun ar y dydd Sadwrn, roedd yn amlwg bod y lein-yp wedi’i lunio i geisio fod yn rhwymyn ar friw cerddorol mewn absenoldeb digwyddiadau byw dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda digonedd o crowd-pleasers fel Eden a Candelas. Ond efallai ceisio rhoi rhwymyn bychan dros friw enfawr a throi llygad dall i’r gwaed sy’n dal i golli yr oedd yr Eisteddfod wrth wneud hynny.

Glain Rhys yn perfformio

Wedi’r trafod ynghylch cydraddoldeb ar lwyfannau cerddorol Cymreig dros y blynyddoedd diwethaf, trueni oedd gweld ystrydeb y ferch dawel, werinol, yn cael ei hybu, gyda mwy o gydraddoldeb yn ymddangos ar y llwyfan ar y dydd Sul gwerinol na’r dydd Sadwrn cyfoes. Da fyddai o leiaf wedi gallu gwylio ffrwd byw cerddorion amgenach fel Lily Beau a Pys Melyn ar sgrin fawr rhwng y perfformiadau byw yn Aberystwyth. Doedd hi ddim yn hawdd gwylio’r ffrydio ar ffôn symudol gyda churiadau DJ Dilys yn y cefndir yn llenwi’r clust – er gwaethaf pa mor braf oedd clywed ailgymysgiadau Roughion ac Alun Gaffey yn cael eu pwmpio o’r uchelseinydd am y tro cyntaf!

Deinameg y bandiau

Er gwaethaf y nifer enfawr o ffrydiau byw gan yr Eisteddfod Amgen llynedd ac eleni o dan y cyfyngiadau, does dim gwell na gwylio band yn perfformio yn y cnawd. Rhywbeth sy’n anodd cael synnwyr ohono heb ei dystio’n fyw ydy’r ddeinameg rhwng cyd-aelodau bandiau wrth berfformio. Braf oedd cael tystio hyn gyda pherfformiad Glain Rhys, wrth iddi ddod â’i band ynghyd am y tro cyntaf erioed o’n blaenau. Artist lleisiol ydy Glain, a heb os, ei llais hi yw canolbwynt bob un o’i chaneuon. Roedd hi’n hyfryd gweld bod yr offerynwyr o’i chwmpas yn deall ac yn parchu nod ei pherfformiad, a hwythau hefyd yn gerddorion amlwg a thalentog yn eu hawl eu hunain, wrth iddynt doddi i ryw dawch cefndirol mewn arddull sioe gerdd er mwyn hybu’r llais.

Hyd yn oed fel aelod o’r gynulleidfa, roedd hi dal yn bosib teimlo gwefr a chyffro aelodau Band Pres Llareggub o gael pob un offerynnwr ar y llwyfan unwaith eto. Cawsom glywed hyd oed mwy o gydweithio hefyd ganddynt, wrth i Eädyth ac Ifan Pritchard gamu i’r llwyfan yn eu tro i roi blas inni o’r hyn sydd i’w disgwyl ar albwm newydd y band fis Awst. Ond er gwaethaf y wledd o gerddoriaeth newydd, uchafbwynt personol i mi oedd eu cover o glasur Dafydd Iwan, ‘Yma o Hyd’. Y tro diwethaf i mi glywed hon yn cael ei chwarae’n fyw oedd yn yr orymdaith AUOB yng Nghaernarfon yn 2019, ac roedd clywed harmonïau adnabyddus y pres yn ennyn atgofion melys o fod mewn torf o gyd Gymry unwaith eto.

Daeth uchafbwynt emosiynol arall y diwrnod ynghlwm â cover adnabyddus arall, y tro hwn gan Los Blancos. Yn dilyn colled y sin gerddoriaeth Gymraeg o rai o sêr disgleiriaf y ganrif ddiwethaf, perfformiodd y band fersiwn arbennig o ‘Garej Paradwys’ gan Ail Symudiad fel teyrnged i’r ddiweddar Richard Jones a’i frawd, Wyn. Daliodd Los Blancos hanfod clasurol y trac oddi ar albwm Yr Oes Ail, tra hefyd yn llwyddo i roi stamp slacker rock cyfoes ar y gân gyda strymio llac y gitâr a llais diymdrech Gwyn Rosser. Hyfryd oedd gweld y cydweithio rhwng artistiaid a’r ailwampio o hen glasuron, sydd wedi bod yn nodweddion annisgwyl o amlwg o gerddoriaeth y cyfnod clo, yn cael cydnabyddiaeth haeddiannol ar lwyfan o’r diwedd.

DJ Dilys yn troelli

Rhywbeth nad oeddwn i’n disgwyl ar ôl cymaint o amser heb weld cerddoriaeth fyw oedd yr hiraeth am amherffeithrwydd. Un band roeddwn i’n edrych ymlaen at wylio oedd Sybs, a minnau wedi chwarae eu cerddoriaeth dro ar ôl tro trwy fy nghlustffonau yn ystod y cyfnod clo. Ac yn wir, o glywed riff agoriadol ‘Cwyr’ yn dod trwy’r uchelseinydd, bron na chefais fy nghludo yn ôl at fy nghlustffonau unwaith eto,gan ei bod hi’n union fel y fersiwn Spotify. Roedd yr un peth yn wir am glasuron Eden, sydd wedi cael eu chwarae’n ddiderfyn ar y tonfeddi i godi calon dros y flwyddyn ddiwethaf. Efallai fy mod i’n or-gyfarwydd gyda’r caneuon bellach, ond roedd hi’n rhyfedd clywed cerddorion wedi misoedd o ymarfer tuag at un gig hir ddisgwyledig, yn hytrach na brys ac amherffeithrwydd amrwd gigs Eisteddfod arferol. Beth, felly, yw hanfod cerddoriaeth fyw? Ai cyflawni perffeithrwydd cerddorol, ynteu greu naws ac awyrgylch yw’r prif nod?

Hwb gwerthfawr mewn gwahanol ffyrdd

Beth bynnag eich barn ar hynny, does dim dwywaith bod dychwelyd i berfformio’n fyw o flaen cynulleidfa wedi rhoi hwb gwerthfawr i bob band mewn gwahanol ffyrdd. I’r Cledrau, er enghraifft, cynigodd y llwyfan gyfle iddynt chwarae rhai o ganeuon oddi ar eu halbwm diweddaraf am y tro gyntaf o flaen cynulleidfa. O glywed Cashews Blasus am y tro cyntaf, roedd yna deimlad fod angen ar rai o’r caneuon trymach ychydig o hwb er mwyn cyrraedd uchafbwynt, ac yn sicr roedd ymatebion y gynulleidfa yn sail wych i wthio egni’r drymiau i’r eithaf.

Candelas ar y llwyfan

Yn wahanol i’r Cledrau, dydy bandiau fel Candelas neu Alffa heb ryddhau llawer o gynnyrch newydd ers tipyn o ganlyniad i’r pandemig. Yn wir, mewn amseroedd arferol, bu rhywun yn dod mor gyfarwydd â set bandiau fel hyn erbyn diwedd yr haf nes bod hi’n anodd cynnig profiad arbennig a gwahanol i’r gwrandäwr. Efallai bod saib i ffwrdd o chwarae gigs wedi bod yn chwa o awyr iach achubol i fandiau adnabyddus, felly, gydag Alffa yn enwedig yn cyfareddu’r gynulleidfa gyda pherfformiad arbennig o ‘Babi Mam’ gydag Iwan Fôn tuag diwedd y prynhawn.

Felly beth fydd y dyfodol i gerddoriaeth fyw mewn byd sy’n ceisio symud heibio dyddiau’r pandemig? A fydd addasiadau i gyfyngiadau yn creu normal newydd yn y pen draw? A fydd y canolbwynt hollbwysig ar gydraddoldeb yn dychwelyd wrth i ddigwyddiadau byw ddod yn llai prin? Yr unig beth sy’n sicr yw ei bod hi wedi bod yn gyfnod ansicr i’r celfyddydau, ac er bod digwyddiadau byw fel yr Eisteddfod Gudd wedi diwallu rhywfaint o alw cerddorol y genedl ar ôl misoedd o dawelwch, gobeithio y bydd hyd yn oed mwy o normalrwydd yn dychwelyd erbyn i ni grwydro draw i’r Llwyfan Perfformio yn Nhregaron yn 2022.

Mae modd gwylio rhaglen uchafbwyntiau gig yr Eisteddfod Gudd ar BBC Iplayer ar hyn o bryd.
Lluniau: Tegwen Bruce-Deans