Mae ailgymysgiad o drac Thallo, ‘Olwen’ wedi’i ryddhau ddydd Gwener diwethaf, 7 Mai.
Y cynhyrchydd, offerynnwr a chyfansoddwr, Nate Williams, sydd wedi mynd i’r afael a’r trac sy’n cael ei ryddhau gan label Recordiau Côsh.
Cafodd yr ailgymysgiad ei greu’n arbennig ar gyfer her ‘stems’ Siân Eleri ar ei rhaglen BBC Radio Cymru, ac mae Nate wedi dilyn llwybr minimalistaidd electronig gyda’i fersiwn o’r gân. Mae teimlad breuddwydiol i’w fersiwn diolch i’r elfennau jazz a ffynci nodweddiadol.
Mae’r sengl newydd yn dilyn dwy sengl wreiddiol sydd wedi’u rhyddhau’n ddiweddar gan Thallo, sef ‘Mêl’ a ‘The Water’. Mae’r ddau drac wedi eu chwarae ar orsafoedd BBC Radio a BBC 6 Music, ynghyd ag ar BBC Radio Cymru.
Dyma’r ail drac diweddar i’w ailgymysgu gan Nate Williams ar ôl iddo droi ei law at y gân ‘Uno, Cydio, Tanio’ gan Sŵnami a gafodd ei ryddhau ar 23 Ebrill.
Yn ôl ei label, mae mwy o gerddoriaeth ar y ffordd gan Thallo dros yr haf.
Llun: Thallo (Anxious Film Club)