Bydd N’famady Koyaté yn rhyddhau teitl-drac ei EP diweddaraf, ‘Aros i Fi Yna’ fel sengl ddydd Gwener yma, 17 Medi.
Rhyddhawyd yr EP yn swyddogol ar 30 Gorffennaf ar label Recordiau Libertino, a hynny’n dilyn rhyddhau’r trac ‘Balafô Douma’ fel tamaid i aros pryd bythefnos ynghynt.
Daw N’Famady Kouyaté yn wreiddiol o Guinea Conakry, ond mae wedi sefydlu ei hun yng Nghaerdydd ers tro bellach.
Bydd yn gyfarwydd i lawer o bobl sydd wedi bod i gigs Gruff Rhys dros y blynyddoedd diwethaf wrth i’r cerddor ei gefnogi’n rheolaidd, a pherfformio fel aelod o fand cyn ganwr y Super Furry Animals ar daith hyrwyddo’r albwm ‘Pang!’.
Mae cerddoriaeth N’Famady wedi’i wreiddio yn nhraddodiadau Mandingue ei famwlad yng Ngorllewin Affrica, gyda dehongliadau newydd o fywyd ac egni yn deillio o ddylanwadau indie, pop a jazz ei gartref newydd yng Nghymru.
‘Heulwen braf yr haf bach Mihangel’
Yn ôl Recordiau Libertino, mae’r brif sengl oddi ar EP cyntaf N’famady Koyaté ‘Aros i Fi Yna’ yn teimlo fel heulwen braf yr haf bach Mihangel yn ein cofleidio. Yn un o uchafbwyntiau cerddorol perfformiadau hwylus a llwyddiannus y band mewn sawl gŵyl o Dyn Gwyrdd i Ganolfan Mileniwm Cymru, i enwi ond ychydig.
Mae ‘Aros i Fi Yna’ yn cynnwys perfformiad gan Lisa Jên Brown (9Bach), yn gân serch sy’n estyn dros gyfandiroedd ac sy’n cael ei fynegi drwy gerddoriaeth afieithus a chywrain N’famady.
“Esblygodd ‘Aros i Fi Yna’ o fy nghân wreiddiol ‘Dianamô’, yna addaswyd i’r Gymraeg” eglura N’famady Kouyaté.
“Mae’n gân serch am hiraeth a gwahanu; wedi’i ysbrydoli gan yr amser y bûm i’n byw mewn cyfandir gwahanol i’m cariad, fe drefnon ni gwrdd â’n gilydd hanner ffordd”.
Mae N’famady wrthi’n teithio ar hyn o bryd gyda Gruff Rhys ar ei daith albwm ‘Seeking New Gods’.
Dyma fersiwn yr EP o’r trac: