Bydd albwm newydd Twmffat yn cael ei ryddhau ar 26 Chwefror gydag addewid o gatharsis gwallgof o gerddoriaeth.
‘Oes Pys’ ydy enw’r record hir ddiweddaraf gan y criw o gerddorion profiadol sy’n cynnwys rhai o gyn-aelodau Anweledig, Estella, Maffia Mr Huws a bandiau amlwg eraill.
Dyma fydd trydydd albwm y grŵp sy’n cael ei arwain gan yr enigma Ceri Cunnington, gan ddilyn ‘Myfyrdodau Pen Wy’ (2009) a ‘Dydi Fama’n Madda i Neb’ (2012), ynghyd â’r EP ‘Tangnefedd’ (2014).
Ar ôl cyfnod gweddol dawel, mae’r grŵp fel petaent wedi cael bywyd o’r newydd, gyda thrac ar albwm aml-gyfrannog Cofi 19 a ryddhawyd ym mis Gorffennaf 2020, yn ogystal â rhyddhau ‘Myfyrdodau Pen Wy’ ar lwyfannau digidol am y tro cyntaf fis Ebrill diwethaf.
Newid cyfeiriad
Mae’n ymddangos fod y casgliad ar droed ers peth amser, gyda’r grŵp yn ymgasglu yn Stiwdio Cefn Cyffin, Llanfrothen sy’n cael ei redeg gan Gwyn ‘Maffia’ Jones (drymiwr Twmffat) nôl yn Hydref 2019.
Y nod bryd hynny oedd cyfansoddi caneuon pop hapus a llon i ddathlu cyrraedd canol oed bodlon a braf. Roedd bwriad hefyd i newid cyfeiriad o themâu gwleidyddol ffraeth y recordiau blaenorol.
Er hynny, mae llawer o ddŵr wedi llifo dan y bont ers Hydref 2019 diolch i ddigwyddiadau fel Brexit a’r pandemig ac mae’r albwm bellach yn ymdrech gan Twmffat i gofnodi’r cyfnod gwallgof yma drwy gasgliad o 13 o ganeuon amrwd a gonest.
“Gwrandewch ar ‘Oes Pys’ drwyddi draw efo headffons, mewn stafell dywyll, a chan o Special Brew” ydy cyngor y prif leisydd, Ceri Cunnington, gyda thafod mewn boch.
“Mae hi wedi bod yn daith o Lockdown i Recovery, yn llythrennol. Doedd albym fel hyn ddim yn fwriad gennym. Mae’r cwbl jest yn lif cnau, ac yn gatharsis llwyr. Gobeithio bydd pobol yn uniaethu efo’r teimlad. Mae’n teuluoedd, ffrindia’ a’n doctoriaid wedi gorfod!”
Cynhesu’r cawl
Y gyd-fynd â rhyddhau ‘Oes Pys’ mae Twmffat wedi cydweithio gyda Gai Toms a Recordiau SBENSH i gynhyrchu fideo ar gyfer y gân ‘Tywysogion Cymru’ – gwyliwch hwn isod.
“A oes pys? Pys! Albym gorau Twmffat” meddai Gai Toms, rheolwr label SBENSH.
“I arall eirio’r anarchydd Edward Abbey: Pan mae cawl yr SRG i weld yn oer ac yn segur, mae bandiau fel Twmffat yn tanio’r cwbl ac yn corddi’r hen wyneb seimllyd.
“Os am osod OES PYS i focs arddull cerddorol, byddwn i’n dweud Seic Arfordirol-Mynyddig Cymreig. SAMC! Neu yn Saesneg, Welsh Mountain-Coast Psyche. WMCP! Gwych!”
Er nad oes dyddiad cyhoeddi eto, mae bwriad i ryddhau ffilm o’r enw ‘A Oes Pys?’ gan Phil Jones, un o aelodau Twmffat, ar ôl rhyddhau’r albwm.
Bydd ‘Oes Pys’ allan ar label Recordiau SBENSH ar 26 Chwefror.