Ôl-gatalog Tonfedd Oren ar Bandcamp

Mae’r grŵp dawns electronig, Tonfedd Oren, wedi ail-ryddhau eu hôl-gatalog o draciau’n ddigidol ar Bandcamp.

Daeth grŵp dirgel i’r amlwg gyntaf wrth ryddhau’r sengl hunan deitlog, ‘Tonfedd Oren’, yn 2012.

Rhyddhawyd y record honno ar feinyl 7” bryd hynny trwy label Norman Records, gydag ail drac ‘Anghofia Ddoe’ ar y record.

Bellach mae’r traciau hynny, ynghyd â chaneuon eraill achlysurol maent wedi rhyddhau ar-lein, ar gael ar eu safle Bandcamp fel casgliad dan yr enw ‘Dogfen’.

Dyma eu cân deyrnged i’r mathemategydd enwog o Fôn, William Jones – ‘Pi’: