Mae’r grŵp breuddwydiol o Ddyffryn Conwy, Omaloma, wedi rhyddhau eu sengl newydd, sef ‘Cool ac yn Rad’.
Mae’r sengl allan yn ddigidol ar label Recordiau Cae Gwyn.
Aelodau craidd Omaloma ydy George Amor (gynt o Sen Segur) a Llŷr Pari (Jen Jeniro, Cowbois Rhos Botwnnog, Y Niwl, Palenco a mwy) gydag aelodau eraill amrywiol yn ymuno nawr ac yn y man.
Mae’r sengl newydd yn dilyn yr EP, ‘Roedd’, a ryddhawyd yn ddi-rybudd gan Omaloma ym mis Mawrth eleni.
Cafodd yr EP ei chwarae ar draws sianeli radio’r BBC, gyda’r gân ‘Peloton’ yn benodol yn cael ei chwarae ar raglen feicio arbennig ar BBC 6 Music a ysbrydolwyd gan y Tour de France.
George a Llŷr yn unig sy’n perfformio ar y sengl newydd, gyda Llŷr hefyd yn gyfrifol am y gwaith cynhyrchu.
Mae fideo i gyd-fynd â’r trac sydd wedi’i greu gan Tori Gludo (Cadi Dafydd Jones) sydd hefyd yn gyfrifol am waith celf y sengl.
Mae modd cael gafael ar y sengl newydd ar safle Bandcamp Omaloma.
Gwrandewch arni isod: