Mae Lastigband wedi rhyddhau EP newydd o’r enw Omega 6 ers dydd Gwener diwethaf, 30 Ebrill.
Lastigband ydy’r band o Ddyffryn Conwy sydd wedi esblygu’n ddiweddar i fod yn brosiect unigol Gethin Davies, sef drymiwr y grŵp seicadelig, Sen Segur.
Omega 6 ydy’r ail EP i’w ryddhau gan Lastigband eleni, gan ddilyn ‘Diffyg’ a ryddhawyd ym mis Ionawr.
Mae’r EP newydd yn cynnwys 4 trac, gydag un o’r rhain yn y Gymraeg, sef ‘Syth yn yr Awyr’.