Osian Huw yn llawn iawn o gariad

Mae ffryntman enigmatig Candelas, Osian Huw Williams, wedi rhyddhau sengl unigol ddydd Gwener diwethaf, 8 Hydref.

‘Llawn Iawn o Gariad’ ydy enw’r trac sy’n cael ei ryddhau mewn cydweithrediad â Radio Cymru, ac sydd eisoes wedi’i glywed ar y tonfeddi radio.

Mae’r gân yn ffrwyth llafur prosiect ‘Her Cerdd Dant’ a osodwyd gan BBC Radio Cymru nôl yn Nhachwedd 2020. Wrth gwrs, fe fu’n rhaid gohirio’r Ŵyl Gerdd Dant y flwyddyn honno, a phawb yng nghanol y clo, ond doedd hyn ddim yn rhwystr rhag gwneud rhywbeth i ddathlu’r hen grefft.

Yn gyntaf, heriwyd Osian, sy’n cael ei adnabod orau fel prif ganwr y band roc Candelas, i berfformio’r fersiwn wreiddiol o ‘Llawn Iawn o Gariad’ o dan lygad barcud y cyfansoddwr, ac un o hoelion wyth y byd cerdd dant, Gwennant Pyrs.

Gwennant a gyfansoddodd y gainc a’r gosodiad o eiriau hen benillion traddodiadol, ac fe wnaeth yn siŵr fod Osian yn cofio ei acennu a’i eirio. Ond tro Osian oedd hi wedyn i gymryd y gainc a’r alaw a’i threfnu fel yr hoffai.

“Roedd yr alaw, a’r rhythmau o fewn yr alaw yn taro deuddeg hefo fi o’r dechrau,” meddai Osian.

“Be wnes i wedyn oedd trefnu cyfeiliant eithaf ‘country’ a dwyn ysbrydoliaeth o fandiau fel Pink Floyd, Bright Eyes a chydig o Cowbois Rhos Botwnnog.”

“Mae Osian wedi symud cerdd dant yn ei flaen,” meddai Gwennant.

“Mae wedi llwyddo i gadw at y rheolau sylfaenol ond wedi datblygu’r gân mewn arddull pop sy’n tynnu ar bob math o ddylanwadau cyfoes. Rwyf wrth fy modd gyda’r fersiwn, ac mae’n sefyll ar ei thraed ei hun fel chwip o gân dda!”

Dyma’r fideo ar gyfer y trac: