Mae cefnogi artistiaid ifanc yn bwysig iawn i’r Selar, ac mae hynny’n aml yn ymestyn y tu hwnt i artistiaid cerddorol yn unig.
Dros y blynyddoedd rydym wedi rhoi sylw a chyfleodd i ffotograffwyr, gwneuthurwyr ffilm ac artistiaid celf weledol amrywiol.
Un peth rydym wedi bod yn arbennig o falch o allu gwneud ydy cynnig cyfle blynyddol i artist ifanc greu’r gwobrau ar gyfer Gwobrau’r Selar, ac mae hyn wedi arwain at ddarnau o gelf hynod o wreiddiol a diddorol dros y blynyddoedd.
Unwaith eto eleni rydym wedi cyd-weithio gyda Phrifysgol y Drindod Dewi-Sant i gomisiynu artist ifanc i greu’r gwobrau, a’r artist sydd wedi cael y dasg bwysig eleni ydy Owain Sparnon.
Dechrau’n ifanc
Mae Owain yn 20 oed ac yn dod o Gastell-nedd. Ar hyn o bryd mae yn ei flwyddyn olaf yn astudio BA mewn Celfyddyd Gain yng Ngholeg Celf Abertawe.
Wrth sgwrsio gyda’r Selar, eglurodd Owain fod ei ddiddordeb mewn celf yn ymestyn yn ôl sawl blwyddyn.
“Ro’n i’n mwynhau arlunio yn fachgen ifanc ond dechreuodd y peth o ddifrif pan ro’n i ym mlwyddyn 9 Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur” meddai Owain
“Dechreuais i arlunio portreadau o actorion, sêr y byd chwaraeon a disgyblion eraill, a mynd ati i werthu rhain am £2 yr un!”
Da gweld ysbryd entrepeneuraidd cynnar y gŵr ifanc, ond er iddo ddechrau gyda phortreadau, dywed bod ei waith wedi amrywio tipyn ers y dyddiau cynnar hynny.
“Mae fy ngwaith celf wedi newid dros y blynyddoedd ac mae’n parhau i newid. Ar hyn o bryd rwy’n creu gwaith yn ymateb i bethau rwy’n gweld yn ddyddiol.
“Gall y rhain gynnwys ffotograffau, tirluniau, golau adlewyrchol a siapiau a ffurfiau gwrthrychau bob dydd. Rwy’n hoffi’r syniad o haenu, datgelu a newid cyd-destun delweddau a hefyd ystyried y ffin rhwng paentiad a cherflun.”
Cerddoriaeth yn ddylanwad
Dywed Owain fod ei ddylanwadau yn newid yn gyson hefyd dan ddibynnu ar yr hyn mae’n gweithio arno ar y pryd ond mae’n rhestru enwau artistiaid fel Rembrandt, Robert Rauschenberg, Julie Mehretu a Michelangelo fel “ysbrydoliaethau cyson”.
Ac nid gwaith artistiaid celf weledol sy’n dylanwadu arno chwaith – mae cerddoriaeth hefyd yn ei ysbrydoli.
“Rwy’n hoff iawn o gerddoriaeth o bob math – mae hyn yn cynnwys cerddoriaeth glasurol, The Beatles, cerddoriaeth Gymraeg, a chanu emynau.
“Rwy’n gwrando ar gerddoriaeth yn aml yn y stiwdio wrth weithio ac mae’n dylanwadu ar fy ngwaith celf” meddai Owain.
Beth am y gwaith celf penodol ar gyfer Gwobrau’r Selar eleni felly, beth ydy’r syniad?
“Mae fy ngwaith celf ar gyfer Gwobrau’r Selar yn ymateb i haenau, symudiad ac egni cerddoriaeth” eglura’r artist addawol.
“Gwnes i frasluniau o wahanol syniadau ymlaen llaw yn fy llyfr braslunio, gan ystyried gwahanol bosibiliadau o ran deunydd, lliwiau a golwg.
“Creais i’r paentiadau wrth wrando ar gerddoriaeth ac rwy’n gobeithio bod pob darn unigol yn mynegi rhywbeth gwahanol am gerddoriaeth.”
Mae un peth y gallwn ni ddweud i sicrwydd – bydd holl enillwyr Gwobrau’r Selar eleni’n gwerthfawrogi a thrysori gwaith celf unigryw Owain.
Mae’r cyfle i greu’r gwobrau wedi bod yn blatfform defnyddio i’r artistiaid sydd wedi eu comisiynu yn y dyfodol, a gallwn fod yn hyderus y bydd hynny’n wir eto eleni.
Owain Sparnon – cofiwch yr enw.
Rhaglen Heno yn cyflwyno ‘Gwobr 2020’ i Eädyth ar y rhaglen nos Fercher.