Mae Parisa Fouladi wedi rhyddhau sengl newydd o’r enw ‘Cysgod y Golau’ ers dydd Gwener diwethaf, 26 Tachwedd.
Dyma sengl unigol ddiweddaraf y gantores Gymreig-Iranaidd, Elin Fouladi, sydd wedi perfformio dan yr enw El Parisa yn y gorffennol, ac sydd hefyd yn aelod o’r grŵp pop siambr, Derw. Mae’r trac newydd yn ddilyniant i’r sengl ‘Achub Fi’ a ryddhawyd ganddi ym mis Hydref 2020.
“Nes i ‘sgwennu ‘Cysgod yn y Golau’ yng nghanol y pandemig” eglura Elin.
“…felly mae o’n bach o wildcard rili, a falle ddim fel y caneuon eraill dwi wedi rhyddhau!”
Recordiodd Elin y gân yn wreiddiol fel rhan o’i Sesiwn Tŷ ar BBC Radio Cymru yn ystod y cyfnod clo, ac fe benderfynodd yn ddiweddar ei bod yn bryd i’w rhyddhau’n swyddogol.
“Yn ddiweddar, roeddwn i jyst yn teimlo fel mod i isio rhyddhau’r gân, er mwyn i fwy o bobl allu ei chlywed, felly dyna dwi di neud!”
“Dwi wrthi’n sgwennu a recordio stwff newydd ond mae’n bwysig i mi ryddhau’r gân yma gan ei bod yn meddwl tipyn i mi rili, ac yn atgof o’r ffordd roeddwn i’n teimlo, a’r math o gerddoriaeth roeddwn yn ei greu yn ystod y pandemig.”