Pedair Gŵyl yn cyfuno i greu un yn 2021

Mae pedair o wyliau mwyaf adnabyddus Cymru wedi dod ynghyd i greu gŵyl ar-lein arbennig ar 6 a 7 Mawrth.

Gŵyl 2021 ydy enw’r ŵyl gelfyddydol Gymreig sy’n cael ei chynnal ar y cyd rhwng Gŵyl y Llais, FOCUS Wales, Lleisiau Eraill Aberteifi a Gŵyl Gomedi Aberystwyth.

Bydd llwyth o gerddoriaeth a chomedi fel rhan o’r ŵyl, gyda’r arlwy gerddorol yn cynnwys Adwaith, Ani Glass, Carys Eleri, Cate Le Bon, Gruff Rhys, The Gentle Good a mwy.

Yn ôl y trefnwyr mae Gŵyl 2021 yn ddigwyddiad digidol heb ei ail ar gyfer cyfnod digynsail, sy’n taflu goleuni, gobaith a gwytnwch y sin greadigol yng Nghymru. Wedi bron i flwyddyn o gadw pellter cymdeithasol, mae Gŵyl 2021 yn nodi undod emosiynol – rhwng artistiaid a chynulleidfaoedd, o Gymru a’r byd. Mae’n cydnabod bod pŵer yn ein llais cyfunol, a taw mewn undod mae nerth.

Fel pob gŵyl gwerth ei halen, bydd Gŵyl 2021 yn dathlu lleisiau cyfarwydd ac yn darganfod lleisiau eclectig a newydd, o Gymru a thu hwnt.

Mae’r artistiaid yn cynnwys Cate Le Bon yn cydweithio â Gruff Rhys, yr arobryn Kiri Pritchard-McLean, Tim Burgess’ Listening Party, a Catrin Finch; yn ogystal â BERWYN (BBC Music Sound of 2021), Carys Eleri (enillydd Gŵyl Fringe Adelaide), Arlo Parks a Dani Rain, sef drymiwr y grŵp Neck Deep.

Ymhlith uchafbwyntiau eraill mae Charlotte Adigéry, Adwaith, Sinead O’Brien y Wyddeles sy’n fardd ac yn arloeswr ‘art rock’, a Jordan Brookes enillydd Gwobr Comedi CaeredinAni Glass, Sprints y grŵp o Ddulyn, N’Famady Kouyate – y cerddor o Gini, sy’n byw yng Nghaerdydd, a’r grŵp sgetsh Tarot

Mae cwmni dawns Jukebox Collective hefyd wedi curadu perfformiadau gan yr artist reggae Aleighcia Scott, yr artist RnB/canu enaid Faith, y rapiwr King Khan, y canwr a rapiwr Reuel Elijah a’r artist gair llafar Jaffrin Khan a mwy.

Bydd modd dilyn yr ŵyl yn rhad ac am ddim ar y wefan www.bbc.co.uk/gwyl2021 ynghyd a rhai gweithgareddau ar wefannau FOCUS Wales ac AM. Bydd modd gwylio am hyd at saith niwrnod ar ôl y digwyddiad.